Neidio i'r prif gynnwy

Ydych chi'n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim y gaeaf hwn?

Mae amddiffyn eich iechyd ac iechyd y rhai o'ch cwmpas yn bwysicach nag erioed ac mae cael eich brechlyn ffliw yn rhan allweddol o hyn.

Mae meddygon teulu, fferyllwyr a staff y GIG ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wedi gweithio'n galed i baratoi ar gyfer rhaglen brechu rhag y ffliw eleni; i sicrhau ei fod yn ddiogel pan fyddwch chi'n derbyn eich brechlyn ffliw a'i fod ar gael i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o gael cymhlethdodau o'r ffliw mor gynnar â phosibl.

Helpwch ni i gadw Cymru yn ddiogel trwy gael eich brechlyn ffliw os ydych chi'n gymwys.

Gallwch gael brechlyn ffliw'r GIG am ddim os:

• yn blentyn dwy neu dair oed (31 Awst 2020)

• yn blentyn yn yr ysgol gynradd

• yn feichiog

• yn 65 oed neu'n hŷn

• dros 6 mis oed â chyflwr iechyd tymor hir

• ag anabledd dysgu

• bod gennych BMI o 40 neu'n uwch

• yn weithiwr gofal iechyd rheng flaen

• gweithio mewn cartref gofal gyda chyswllt cleient rheolaidd

• darparu gofal cartref yng nghartrefi cleientiaid

• yn ofalwr taledig neu ddi-dâl

Bydd eich meddyg teulu yn eich gwahodd i dderbyn eich brechlyn ffliw os ydych chi'n gymwys ac felly mae'n bwysig sicrhau bod y manylion cyswllt sydd gan eich meddyg teulu ar eich cyfer yn gyfredol.

Mae plant yn yr ysgol gynradd fel arfer yn derbyn eu brechiad ffliw gan Dîm Nyrsio Ysgol Hywel Dda. Bydd gwybodaeth bellach am raglen brechu ysgolion eleni yn cael ei rhannu cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae brechu ffliw eleni yn bwysicach nag erioed os ydym am amddiffyn ein hiechyd ac iechyd y rhai o'n cwmpas y gaeaf hwn.

“Mae diogelwch y rhai sy’n derbyn ac yn rhoi y brechiadau eleni o’r pwys mwyaf, ac rwy’n hynod falch o’r paratoadau a wnaed gan gynifer o staff iechyd ledled canolbarth a gorllewin Cymru i sicrhau bod yr holl fesurau diogelwch priodol ar waith.

“Y bobl sydd â risg uchel o COVID-19 hefyd yw'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o'r firws ffliw. Os cewch eich gwahodd i dderbyn eich brechiad ffliw, gwnewch bob ymdrech i ddod i'ch apwyntiad a'n helpu ni i'ch cadw chi a Chymru yn ddiogel y gaeaf hwn.

"Os nad ydych yn gymwys i gael brechiad ffliw rhad ac am ddim y GIG, gallwch barhau i amddiffyn eich hun gyda brechlyn ffliw preifat gan eich fferyllydd lleol am ffi fach. Gallwch ddod o hyd i'ch fferyllfa agosaf yma https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/

Amddiffyn eich hun ac eraill a helpu i gadw Cymru yn ddiogel trwy gael eich brechlyn ffliw. I gael mwy o wybodaeth am y brechiad ffliw, ewch i https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/curwch-ffliw/