Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriadau trwy gyswllt fideo

Mewn ymgynghoriad trwy gyswllt fideo, byddwch yn siarad â meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol gan ddefnyddio’r camera fideo yn eich ffôn clyfar, eich llechen neu’ch cyfrifiadur a chysylltiad â’r rhyngrwyd. Gall hynny arbed amser i chi, oherwydd ni fydd angen i chi deithio i fynychu apwyntiad wyneb yn wyneb. Os nad ydych yn siŵr sut mae gwneud hynny neu os nad oes gennych yr offer cywir, dylech ystyried a allai perthynas neu ffrind eich helpu.

Rydym yn defnyddio ymgyngoriadau trwy gyswllt fideo i gynnal sesiynau grŵp ac ymgyngoriadau unigol. Mae’r system yr ydym yn ei defnyddio yn ddiogel ac yn hollol gyfrinachol.

Bydd y llythyr a oedd yn eich gwahodd yn dangos a ofynnwyd i chi fynychu sesiwn grŵp neu apwyntiad unigol gyda’ch clinigwr. 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: