Os ydych chi'n glaf ac yn teithio i'r ysbyty neu oddi yno, fel rheol bydd disgwyl i chi drefnu eich cludiant eich hun - p'un a yw hynny'n gyrru, yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu'n gofyn am help gan deulu a ffrindiau.
Pan nad yw hyn yn bosibl, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer ein gwasanaeth cludo cleifion, yn gallu defnyddio gwasanaethau cludiant cymunedol neu gael help gyda chostau teithio.
I weld a ydych yn gymwys, defnyddiwch y gwiriwr ar-lein sydd ar gael yma (agor mewn dolen newydd)
Os ydych chi wedi derbyn cludiant ysbyty di-argyfwng yn ddiweddar gan Ambiwlans Cymru yna cliciwch yma i gwblhau arolwg byr am eich profiad (agor mewn dolen newydd).
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn darparu Gwasanaeth Cludiant Cleifion Difrys i gleifion ledled Cymru nad ydynt yn gallu, am resymau meddygol, wneud eu ffordd eu hunain yn ôl ac ymlaen i'w hapwyntiadau ysbyty.
Mae'n adnodd hanfodol i helpu'r cleifion hynny sy'n dibynnu ar y gwasanaeth ac ni ddylai gael ei ddefnyddio gan y rhai heb angen meddygol.
Sylwch nad yw angen am driniaeth yn awgrymu angen am gludiant yn awtomatig. Mae proses cymhwyster bod gofyn i'r holl gleifion i fynd drwodd i sicrhau bod eich anghenion yn briodol ar gyfer y gwasanaeth.
Ar gyfer claf y canfyddir nad ydynt yn gymwys, mae Tîm Cludiant Amgen a all drafod opsiynau cludo yn eich ardal chi.
Gallech fod yn gymwys i gael cludiant ysbyty os;
Pan fyddwch yn ffonio, bydd cynghorydd yn asesu eich anghenion trafnidiaeth. Os ydych chi'n gymwys, trefnir cludiant ar eich cyfer chi.
Ar gyfer pob ymholiad, neu i archebu neu ganslo cludiant gan ysbyty, ffoniwch y rhifau ffôn canlynol:
Rhif Ffôn: 0300 1232 303 os ydych wedi eich cofrestru gyda phractis meddyg teulu yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro
Amseroedd agor:
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am gludiant cleifion nad yw'n argyfwng (agor mewn dolen newydd)
Gall Cymdeithasau Cludiant Cymunedol eich helpu i ddod o hyd i ddarparwyr cludiant cymunedol neu wirfoddol yn eich sir. Mae hyn yn ddefnyddiol os nad ydych yn gymwys ar gyfer ein gwasanaeth cludo cleifion ac na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Cymdeithas Mudiadau Trafnidiaeth Gymunedol Sir Benfro (PACTO)
Rhif Ffôn: 0800 783 1584
Cliciwch yma i ymweld â gwefan PACTO (agor mewn dolen newydd)
Ceredigion (Country Cars) Rural Transport Schemes
Rhif Ffôn: 07812 485 809
Cliciwch yma i ymweld â gwefan Ceredigion (Country Cars) Rural Transport Schemes (Saesneg yn unig, agor mewn dolen newydd)
Dolen Teifi Trafnidiaeth Cymunedol
Rhif Ffôn: 01559 362403
Cliciwch yma i ymweld â gwefan Dolen Teifi Tafnidiaeth Cymunedol (agor mewn dolen newydd)
Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA)
Rhif Ffôn: 01792 844 290
Cliciwch yma i ymweld â gwefan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol (agor mewn dolen newydd)
Uned drafnidiaeth ganolog
Gellwch hefyd gysylltu â'n tîm cludiant ni, a allai eich cynorthwyo neu eich cyfeirio at gynlluniau cludiant lleol eraill neu drafnidiaeth gyhoeddus.
Rhif Ffôn: 01267 229 620
Cliciwch yma i gael help gyda chostau teithio (agor mewn dolen newydd)
Gallech fod â hawl i help gyda chostau yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Cliciwch yma am wybodaeth ar cymorth costau teithio (agor mewn dolen newydd)
Dychwelyd adref o'r ysbyty
Os byddwch yn cael anhawster dychwelyd adref, siaradwch ag aelod o staff, fel y gall helpu os yw'n bosibl. Gall chwiorydd ward a rheolwyr safle ysbytai ystyried talu am dacsi dan gontract o dan amgylchiadau dim cludiant amgen ar gyfer cleifion oedrannus eiddil a theuluoedd ifanc bregus. Y penderfyniad terfynol yw chwaer y ward a rheolwr safle'r ysbyty.
Mae'n bwysig meddwl yn ddigon cynnar am sut y byddwch yn cyrraedd ac yn gadael eich apwyntiad ysbyty. Er mwyn eich helpu i gynllunio eich taith, dyma rai opsiynau o ran cyrchu ein hysbytai:
Traveline Cymru - yn darparu gwybodaeth am ddarparwyr bysiau, rheilffyrdd a chludiant cymunedol lleol.
Rhif Ffôn: 0300 200 22
Cliciwch yma i ymweld â gwefan Traveline Cymru (agor mewn dolen newydd)
Bwcabus - yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer rhannau gwledig o Geredigion a Sir Gaerfyrddin.
Rhif Ffôn: 01239 801601
Cliciwch yma i ymweld â gwefan Bwcabus (agor mewn dolen newydd)
Lawrlwythwch yr ap fflecsi i archebu
Yr app yw’r ffordd hawsaf o ddefnyddio fflecsi. Mae’r ap yn dangos i chi ble mae’ch gwasanaeth fflecsi, ble bydd yn eich casglu a phryd fydd e’n cyrraedd.
Cliciwch yma i lawrlwytho ddyfeisiau Apple (agor mewn dolen newydd)
Cliciwch yma i lawrlwytho ddyfeisiau Android (agor mewn dolen newydd)
Mae Tacsis Rhadffon ar gael yn ein pedwar prif ysbyty: