Neidio i'r prif gynnwy

Asesiadau digidol

Diweddarwch ni am eich iechyd ar-lein

Gallwch chi ddweud wrthym am eich symptomau ac ansawdd eich bywyd o gartref. Ein helpu i ddarparu gwell gofal trwy fesur yr hyn sydd bwysicaf i chi.

 

Beth yw asesiadau digidol?

Mae Asesiadau Digidol yn wasanaeth ar-lein newydd sy’n ceisio gwella cyfathrebu rhyngoch chi a thîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy’n gyfrifol am eich gofal.

Byddwn yn anfon neges destun atoch gyda dolen nhs.my yn gofyn i chi lenwi ffurflen ar-lein.

Yna bydd eich clinigwr yn adolygu’ch atebion ar-lein.

Bydd y ffurflenni yn gofyn am eich:

  • Symptomau
  • Iechyd Corfforol
  • Ansawdd Bywyd

Mae Asesiadau Digidol yn cynnwys ystod o ffurfiau, pob un yn casglu gwahanol fathau o wybodaeth.

Efallai y byddwch yn derbyn yr Asesiadau Digidol canlynol:

  • PROMs – Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion
  • PREMs – Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion

 

Sut y bydd Asesiadau Digidol yn fy helpu?

Bydd monitro’ch symptomau gartref yn rheolaidd trwy ffurflenni yn ein helpu i ddeall eich iechyd yn well a’r hyn sydd bwysicaf i chi.

Gall eich ymatebion i’r ffurflenni hyn eich helpu chi a’ch tîm:

  • Adnabod yn well a ydych chi’n fodlon â’ch triniaeth a’r profiad o ofal rydych chi’n ei dderbyn/am ei dderbyn;
  • Gwella sut rydym yn darparu gofal i chi;
  • Gwneud penderfyniadau mwy gwybodus a dewis y driniaeth orau.

 

Sut mae cwblhau fy asesiadau digidol?

  1. Gwnewch yn siwr eich bod yn darparu rhif ffôn symudol, enw llawn, côd post a dyddiad geni fel gallwch fewngofnodi;

  2. Fe wnawn anfon neges destun neu ebost pan fo angen i chi gwblhau Asesiad Digidol;

  3. Cliciwch ar ddolen nhs.my a mewnbynnu eich cyfenw, dyddiad geni a chôd post i fewngofnodi

  4. Llenwch y ffurflen mor gywir ac mor onest ag y gallwch, fel gall eich tîm clinigol ddeall eich sefyllfa

  5. Sicrhewch eich bod yn cyflwyno’r ffurflen ar y diwedd fel y gall eich tîm clinigol weld eich atebion.

  6. Gallwch weld cofnod o’ch asesiad gorffenedig ar y porth claf, trwy fynd i ‘Online Care’ a ‘View Assessment’

Mae hyd y ffurflen yn newid o arbenigedd i arbenigedd. Dylai gymryd rhwng 5-15 munud i’w gwblhau.

 

Ble mae asesiadau digidol yn digwydd?

Rydym yn ehangu'r defnydd o Asesiadau Digidol ar draws nifer o wahanol glinigau yn y bwrdd iechyd.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: