Neidio i'r prif gynnwy

Gofal trwy Gymorth Technoleg

Ffôn Symudol Mae teleiechyd yn dechnoleg newydd i helpu i fonitro eich iechyd yn gyfleus yn eich cartref eich hun. Mae'n ychwanegu at y gofal a gynigir eisoes gan eich meddyg teulu/nyrs ac arbenigwyr.

Byddwch yn cael offer, megis synwyryddion electronig, a fydd yn monitro eich pwysedd gwaed a'ch darlleniadau ocsigen. Bydd y darlleniadau'n cael eu cyflwyno'n awtomatig i'ch gweithiwr iechyd proffesiynol drwy AP ar eich ffôn symudol neu lechen.

Mae teleiechyd yn dechnoleg sy'n cael ei gyflwyno ar draws Hywel Dda yn ystod y misoedd nesaf. Ynghyd ag ymgynghoriadau fideo, negeseuon testun, holiaduron ac ati, bydd teleiechyd yn rhoi popeth sydd ei angen arnoch i reoli eich iechyd eich hun.

Cymorth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos:

Cysylltwch â thîm Llesiant Delta
Ffôn: 0300 333 2222

Darllenwch fwy am rai o'r technolegau digidol eraill yn Hywel Dda yma (agor mewn dolen newydd)

Mae hysbysiad preifatrwydd yn ddatganiad sy'n disgrifio sut y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn casglu, defnyddio, cadw a datgelu gwybodaeth bersonol. Edrychwch ar y hysbysiad preifatrwydd llawn - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yma (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: