Neidio i'r prif gynnwy

IAWN - Gwybodaeth, ymwybyddiaeth a llesiant nawr

Mae'r Gwasanaeth Therapïau Seicolegol Integredig, y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol a'r Gwasanaeth Cyswllt Lles yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’n wasanaeth pwrpasol i oedolion 18 oed a hŷn sydd angen cymorth gyda heriau iechyd meddwl.

Ein nod yw darparu ystod o gefnogaeth yn dibynnu ar angen ynghyd ag adnoddau ar-lein hawdd eu cyrraedd a gwybodaeth am faterion iechyd meddwl i'ch galluogi i hunangymorth a gwybod ble i gael cymorth pellach pe bai ei angen arnoch.

Mae'r adnoddau hunangymorth yn cynnig mynediad i lyfrau gwaith ac mae'r dolenni isod yn mynd â chi at fwy o adnoddau, fel Silvercloud, therapi ar-lein rhad ac am ddim.

Comisiynodd Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu gyfeiriadur gwasanaeth cymorth yn ystod Covid-19 (PDF, 1.24MB)

Cymorth brys

Mae llinell gymorth iechyd meddwl a lles ar gyfer pobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.  Mae cymorth ar gael i bob oedran drwy ffonio 111 a dewis opsiwn 2 lle byddant yn cael eu trosglwyddo i ymarferydd iechyd meddwl.

Mae ein Gwasanaethau Therapïau Seicolegol a Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol yn cynnig gwasanaeth arferol ac nid yw'n delio â materion iechyd meddwl argyfwng neu frys. 

I gael cymorth brys nad yw'n argyfwng dylech gysylltu â'ch meddyg teulu, yn y lle cyntaf, a all eich cyfeirio at y gwasanaethau iechyd meddwl mwyaf priodol. Os ydych y tu allan i oriau meddyg teulu dylech fynd at y meddyg teulu y tu allan i oriau yn yr adran damweiniau ac achosion brys.

Os oes angen cymorth brys arnoch chi neu rywun rydych yn ei adnabod, ffoniwch 999.

Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro, gallwch ddeialu 111 i gael mynediad at wasanaeth eich meddyg teulu y tu allan i oriau a Galw Iechyd Cymru drwy ddeialu 111 a dewis opsiwn 2.

 


 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: