Neidio i'r prif gynnwy

Ymweliadau cleifion mewnol

[diweddarwyd Chwefror 2023]

Peidiwch ag ymweld ag unrhyw un o’n hysbytai os yn: 

  • teimlo'n sâl; 
  • â symptomau tebyg i ffliw neu haint anadlol; 
  • yn dioddef, neu wedi cael, dolur rhydd a/neu chwydu yn y 48 awr diwethaf; 
  • wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un sydd â'r symptomau uchod yn ystod y 48 awr ddiwethaf; 
  • â chyflwr meddygol yn barod neu ar feddyginiaeth sy'n eu rhoi mewn perygl o haint. 

Cyngor ar reoli heintiau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (agor mewn dolen newydd)  

Rydym yn cydnabod manteision therapiwtig cleifion yn derbyn ymwelwyr a'r cyfraniad y gallant ei wneud i les cyffredinol cleifion. 

Mae ein trefniadau ymweld isod yn galluogi ein cleifion i gael ymwelwyr tra'n diogelu eu preifatrwydd a'u hurddas, a sicrhau eu bod yn derbyn gofal mewn amgylchedd diogel ac effeithlon. 

  • Cytunir mai oriau ymweld safonol neu graidd ar gyfer wardiau cyffredinol yw 2pm-4pm a 6pm-8pm. 
  • Gall prif nyrsys ward/bydwragedd â gofal ddefnyddio eu disgresiwn i hwyluso ymweliadau y tu allan i oriau craidd ac mewn amgylchiadau eithriadol. 
  • Dim ond dau ymwelydd a ganiateir wrth erchwyn y gwely ar unrhyw un adeg. 
  • Mae ymweliadau agored/hyblyg ar waith mewn unedau gofal critigol ac arbenigol. 
  • Anogir ymweld ‘drwy apwyntiad’ i atal gorlenwi mewn cilfach/ward ar unrhyw un adeg a bydd yn cael ei fabwysiadu pan fydd nifer cynyddol o achosion o glefydau trosglwyddadwy penodol yn y boblogaeth gyffredinol, er enghraifft, COVID-19 neu ffliw. 
  • Os oes ymweliadau ‘drwy apwyntiad’ yn eu lle, caiff hyn ei gyfleu i gleifion ac ymwelwyr. 
  • Mae amseroedd bwyd yn parhau i gael eu diogelu fel amseroedd tawel, gyda'r opsiwn i ymwelwyr/gofalwyr wneud trefniadau gyda phrif nyrs y ward i gynorthwyo gyda bwydo fel y bo'n briodol. 
  • Lle bo’n briodol, gellir cefnogi ‘ymweliad rhithwir’. 
  • Cynghorir pob ymwelydd i beidio ag ymweld os yw'n sâl gyda haint gastroberfeddol neu resbiradol. 
  • Gellir cyflwyno trefniadau ymweld penodol i atal trosglwyddo haint, er enghraifft, yn ystod achos o haint ar y ward. 
  • Helpwch ni i atal heintiau rhag lledaenu bob amser a glanhewch eich dwylo cyn ac ar ôl i chi adael y ward 

Mae Polisi Ymweld Cleifion Mewnol y bwrdd iechyd ar gael i’w ddarllen yn llawn yma (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: