Neidio i'r prif gynnwy

Canolbarth a gorllewin iachach

Rydym yn ymwybodol nad yw dogfennau sydd wedi'u cynnwys yn y maes hwn yn cydymffurfio â'r Safonau Hygyrchedd Digidol. Os hoffech gael mynediad at fformat arall, ebostiwch Hyweldda.Engagement@wales.nhs.uk. Gallwch ddarllen ein datganiad hygyrchedd digidol yma. Gallwch ddarllen ein datganiad hygyrchedd digidol yma. 

Mae gennym weledigaeth a rennir gyda’n cymunedau i ni fyw bywydau iach, llawen. Ein huchelgais yw symud o wasanaeth sy'n trin salwch yn unig i un sy'n cadw pobl yn iach, yn atal afiechyd neu afiechyd sy’n gwaethygu, ac yn darparu unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch yn gynnar.

Rydym yn gweithio yn ein cymunedau i ddarparu cymorth a gofal mwy cydgysylltiedig ac mor agos at y cartref â phosibl.

Mae gan ein hysbytai rôl bwysig i'w chwarae hefyd i ddarparu cymorth arbenigol o safon pan fo angen, ac rydym am wella gwasanaethau ysbyty fel eu bod yn darparu'r safonau gorau oll a diogelwch mewn gofal, gyda chanlyniadau gwell i chi.

Yma byddwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi a'r datblygiadau yn y broses o drawsnewid iechyd a gofal yn ein hardal.

Yn y dolenni isod fe welwch ein strategaeth o’r enw ‘Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw’n Dda’. Mae hyn yn rhannu ein rhesymau dros newid a’n gweledigaeth ar gyfer gwella iechyd a lles ein cymunedau.

Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolenni i'r Achos Busnes Rhaglen, sy’n ddogfen ar gyfer Llywodraeth Cymru a’r cam cyntaf wrth gynllunio’r rhaglen. Mae’n darparu prosbectws o gyfleoedd posibl, y gobeithiwn y byddant yn arwain at fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn ein hadeiladau a’n seilwaith.

Rydym am barhau i ymgysylltu, ac o bosibl ymgynghori’n ffurfiol ar rannau o’r rhaglen, â chleifion, y cyhoedd, staff a phartneriaid.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: