Neidio i'r prif gynnwy

Concrit Awyrog Awtoclaf Cyfnerth (RAAC)

Arwydd Ysbyty Llwynhelyg

Newyddion diweddaraf...

Gweler isod yr holl newyddion diweddaraf a diweddariadau ar y sefyllfa Concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, Sir Benfro.

Mae RAAC yn ddeunydd a ddefnyddiwyd yn gyffredin wrth godi adeiladau rhwng y 1960au a'r 1990au. Cadarnhawyd ei bresenoldeb yn ysbyty Llwynhelyg ac mewn rhan gyfyngedig o ysbyty Bronglais ym mis Mai 2023. Mae hefyd wedi’i nodi mewn amrywiaeth o eiddo’r GIG ledled y DU, gan gynnwys sawl eiddo yng Nghymru.

Rhoddwyd cynlluniau ar waith ym mis Mai 2023, ar ddechrau’r broses arolwg, i reoli’r effaith ar weithrediad gwasanaethau dydd i ddydd yn yr ysbyty a blaenoriaethu argaeledd gwelyau ysbyty.

Gwyddom fod y gwaith arolygu a chamau adferol wedi achosi cryn aflonyddwch a phryder ymhlith aelodau ein cymuned ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Hoffai’r bwrdd iechyd ddiolch i staff ysbytai, cleifion ac ymwelwyr am eu hamynedd a’u dealltwriaeth dros y misoedd nesaf tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud.

 

Diweddariadau blaenorol...

19 Ionawr 2024 - Gostwng Statws Digwyddiad Mawr Mewnol yn Ysbyty Llwynhelyg
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi bod y Digwyddiad Mawr Mewnol a ddatganwyd yn Ysbyty Llwynhelyg ar 15 Awst 2023 yn sgil darganfod planciau concrit diffygiol yn awr wedi dod i ben.

16 Tachwedd 23 - Wardiau yr effeithir arnynt gan RAAC yn ailagor

Mae disgwyl i dair o'r chwe ward yn Ysbyty Llwynhelyg gafodd eu cau oherwydd presenoldeb planciau RAAC gael eu hailagor erbyn y Nadolig.

 

15 Awst 2023 Galw Digwyddiad Mawr Mewnol am RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg (agor mewn tab newydd)
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda heddiw, dydd Mawrth, 15 Awst 2023 wedi datgan digwyddiad mawr mewnol yn Ysbyty Llwynhelyg wrth iddo geisio canfod maint ac effaith y Concrit Awyrog Awtoclaf Cyfnerth (RAAC) a geir yn adeilad yr ysbyty.

28 Gorffennaf 2023 - Gwaith diogelwch yn parhau yn Ysbyty Llwynhelyg
Mae gwaith yn parhau ar raglen o arolygon yn Ysbyty Llwynhelyg i ganfod cyflwr planciau to concrit mewn wardiau ar safle'r ysbyty yn Hwlffordd. Nod yr arolygon, a ddechreuodd ym mis Mai 2023, yw i reoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â phlanciau concrit awyrog awtoclaf wedi'u hatgyfnerthu (RAAC), a disgwylir iddynt barhau am o leiaf saith mis arall. 

5 Mai - 2023 - Arolwg diogelwch i ddechrau ar wardiau yn Ysbyty Llwynhelyg
Mae cynlluniau wedi'u rhoi ar waith yn Ysbyty Llwynhelyg i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl wrth i waith arolygu pellach ddechrau ar blanciau to concrit mewn wardiau ar safle'r ysbyty yn Hwlffordd.  Daw’r gwaith yn sgil pryderon a godwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) am ddiogelwch deunyddiau a ddefnyddiwyd wrth adeiladu ysbytai’r GIG rhwng 1960 a 1995.

Dysgwch fwy am RAAC...

Mae Concrit Awyrog Awtoclaf Cyfnerth (RAAC) yn blanciau concrit a ddefnyddiwyd yn gyffredin mewn adeiladu rhwng 1960 a 1995. Yn y bôn, planciau yw'r rhain sy'n ymgorffori swigod aer ynddynt i wneud y planciau'n fwy ysgafn - sy'n golygu eu bod yn haws ac yn rhatach i'w cludo a thrin.

Defnyddiodd sawl adeilad sector cyhoeddus ar draws y DU planciau RAAC wrth eu hadeiladu. Mae erthygl ddiweddar gan y BBC yn amlygu graddau’r broblem yn yr Alban: Faulty concrete fears at 250 NHS Scotland sites - BBC News (opens in new tab)

Yn dilyn rhybudd gan GIG Lloegr ym mis Tachwedd 2019, hysbysodd Llywodraeth Cymru yr holl fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru am broblem bosibl gyda’r defnydd o blanciau Concrit Awyrog Awtoclaf Cyfnerth (RAAC), a ddefnyddir yn gyffredin i adeiladu adeiladau’r GIG rhwng 1960 a 1995.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hysbysiad a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth benderfynu a oes planciau RAAC yn bresennol ar adeiladau mewn toeau, waliau neu loriau ac adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru gyda’r canfyddiadau a chynllun rheoli.

Nododd y broses hon bresenoldeb nifer fawr o blanciau RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg a nifer fach yn Ysbyty Bronglais. Mae'r ardal ym Mronglais uwchben ystafell beiriannau ac nid yw'n cael ei hystyried yn risg uchel. Mae logiau risg a chynlluniau rheoli cysylltiedig wedi'u creu ym mhob achos.

Mae angen y gwaith ymchwiliol pellach i asesu maint y broblem yn gywir fel y gallwn sicrhau diogelwch cleifion, staff ac ymwelwyr â safle Ysbyty Llwynhelyg. Mae'r broses hon yn cael ei chynllunio a'i gweithredu'n ofalus, a gwneir pob ymdrech i sicrhau nad amherir ar ofal cleifion yn fwy nag sy'n gwbl angenrheidiol.

Dangosodd ymchwiliadau cychwynnol fod maint y mater sy'n effeithio ar Ysbyty Llwynhelyg yn gofyn am raglen barhaus o waith arolygu i bennu cyflwr y planciau RAAC a ddefnyddir ym mhob adeilad ac i wirio yn erbyn unrhyw ddirywiad.

Rydym wedi penodi Curtins, arbenigwyr a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru, i wneud y gwaith, a fydd yn cael ei wneud fesul ward a fesul planc.

Disgwylir y bydd yr arolygon hyn yn achosi cryn aflonyddwch ac yn cymryd misoedd lawer i'w cwblhau. Bydd y broses yn gofyn am symud wardiau ac adrannau a bydd rhai staff a chleifion wedi cael eu symud i lety arall wrth i arolygiad systematig gael ei gynnal.

Hyd yn hyn, canfuwyd planciau diffygiol ym mhob un o'r chwe ward a arolygwyd ar yr ail lawr ac mewn ardaloedd ar y llawr gwaelod a'r gegin.

Mae Wardiau 7, 8/Uned Gofal Coronaidd, 10, 11/Uned Strôc Aciwt a 12 bellach ar gau. Mae planciau sy’n achosi pryder wedi’u nodi ac mae gwaith adfer ar blanciau risg uchel yn mynd rhagddo yn Ward 12 a Ward 7.

Mae’r mannau hyn wedi’u gadael gyda chleifion wedi’u hadleoli i safleoedd eraill yn Llwynhelyg neu safleoedd eraill yn Sir Benfro – naill ai i Ysbyty De Sir Benfro, i gyfleusterau cymunedol neu’n cael eu galluogi i fynd adref.

Mae'r gwaith ar Ward 9 bellach wedi'i gwblhau ac mae cleifion yn cael eu hailgyflwyno i'r ward. Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau ar Ward 12 yn gynnar ym mis Tachwedd a disgwylir i gleifion gael eu trosglwyddo'n ôl i mewn yn dilyn cyfnod ailgomisiynu byr.

Mae gwaith arolwg manwl hefyd ar y gweill yn adran Cleifion Allanol A, sy'n golygu bod angen cau'r uned yn barhaus hyd nes y cwblheir y gwaith atgyweirio. Mae'r gwaith hwn wedi'i amserlennu i ddilyn gwaith arolwg yn syth, gan arwain at oedi cyn ailfeddiannu tan fis Mehefin 2024. Mae lleoliadau eraill ar gyfer darpariaeth cleifion allanol yn cael eu cwmpasu ar hyn o bryd.

Mae'r Gegin hefyd ar gau gyda gwasanaeth dros dro yn cael ei ddarparu o'r ystafell fwyta tra bod cegin maes yn cael ei sefydlu. Mae hwn yn debygol o fod yn barod erbyn mis Tachwedd.

Mae rhai coridorau a mannau ar y llawr gwaelod hefyd wedi'u nodi fel rhai sydd â phlanciau RAAC yn bresennol ac angen gwaith atgyweirio. Mae rhaglen waith wedi ei sefydlu i fynd i'r afael â hyn. Yn y cyfamser, mae propiau wedi cael eu rhoi ar waith ar leoliadau ar y llawr gwaelod i gefnogi ailfeddiannu lle mae hyn yn ddiogel i wneud hynny.

 

Mae tua 5,000 o blanciau ar wardiau a mannau llawr gwaelod yr effeithir arnynt yn Llwynhelyg. Mae pob planc yn cael ei arolygu a'i asesu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyllid o £12.8 miliwn i fynd i’r afael â’r planciau critigol a risg uchel dros gyfnod o ddwy flynedd ariannol. Mae gwaith wedi dod i ben ar Ward 9 sydd bellach wedi ail-agor gyda chleifion yn cael eu hail-gyflwyno. Mae Ward 12 ar y trywydd iawn i gael ei hailagor ar 3 Tachwedd a disgwylir iddi fod yn weithredol erbyn 10 Tachwedd.

Disgwylir i'r wardiau sy'n weddill gael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon (Ebrill 2024). Bydd gwaith atgyweirio i leoliadau ar y llawr gwaelod yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd planciau risg canolig ac isel yn parhau i gael eu harolygu'n rheolaidd a gallai hyn arwain at waith atgyweirio pellach yn y dyfodol.

Cwblhawyd archwiliadau gweledol o'r lleoliadau llawr gwaelod a'r wardiau ddiwedd mis Medi. Bydd arolygon planc fesul planc manwl yn parhau hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol hon (Ebrill 2024).

Rydym wedi sefydlu rhaglen waith i’w rhedeg dros y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn ariannol nesaf (hyd at fis Mawrth 2025) i fynd i’r afael â’r planciau critigol a risg uchel.

Mae gwaith wedi dechrau ar y wardiau a disgwylir y bydd yr holl wardiau yr effeithir arnynt wedi'u cwblhau erbyn mis Ebrill 2024. Bydd gwaith atgyweirio i leoliadau llawr gwaelod yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Lle mae mannau sydd angen propiau yn cael eu nodi, mae angen i ni osod y propiau mewn lleoliadau penodol, sy'n golygu na allwn barhau i weithio yn y mannau.

Fel y gwelwch o lun y pensaer o ward 7 a’r lleoliadau prop arfaethedig isod, byddai angen i’r propiau fynd drwy’r gwelyau yn ein wardiau, ac nid yw hynny’n bosibl. Felly, mae angen inni symud cleifion allan o wardiau yr effeithir arnynt tra bod y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud.

Artist impression of ward with props

Ydy. Rydym eisoes yn gweld yr effaith a bydd angen inni fod yn ystwyth yn ein hymagwedd wrth i’r arolwg a’r gwaith atgyweirio barhau. Lle bo modd, mae cleifion yn cael eu symud i leoliadau eraill yng nghymuned Llwynhelyg a Sir Benfro.

Mae ein timau ysbyty a chymunedol yn cydweithio’n agos i ddarparu dewisiadau amgen effeithiol i’r llai o gapasiti yn Llwynhelyg, gan sicrhau bod ein cleifion yn cael gofal yn y lle sy’n gweddu orau i’w hanghenion. Mae hyn yn cynnwys mwy o welyau a thriniaethau yn ein hysbytai cymunedol. Lle bo modd, yr ydym yn ceisio cadw cleifion o fewn sir Benfro.

Mae llawdriniaethau cleifion mewnol dewisol yn Llwynhelyg yn rhedeg ar lefel isel ar hyn o bryd wrth i ni barhau i wneud gwaith atgyweirio. Lle bo modd, mae llawdriniaeth ddewisol yn cael ei symud i ysbytai byrddau iechyd eraill. O 9 Hydref, mae Llawdriniaeth Ddydd wedi ailddechrau yn Ysbyty Llwynhelyg.

Ein cyngor i gleifion yw parhau i gael mynediad at ein gwasanaethau fel arfer hyd nes y dywedir yn wahanol wrthynt. Rydym yn gwerthfawrogi efallai y bydd angen i ni gysylltu â chleifion ar fyr rybudd, a bydd ein timau yn cysylltu â chleifion yn uniongyrchol i roi gwybod iddynt os bydd eu hapwyntiad yn newid.
Byddwn yn parhau i rannu cyfathrebiadau am y ffordd orau o gael mynediad at ein gwasanaethau, gan gynnwys dim ond cael mynediad i’n Hadran Achosion Brys mewn argyfwng, a defnyddio’r ystod eang o wasanaethau sydd ar gael i’n cleifion (NHS 111, fferyllfeydd, meddygon teulu, Unedau Mân Anafiadau).

Ydym. Rydym wedi ysgrifennu at ein partneriaid awdurdod lleol i ofyn am gymorth ac rydym yn gweithio gyda nhw i alluogi ein cleifion sy’n feddygol ffit ac yn barod i gael eu rhyddhau i symud i leoliadau cymunedol lle bo modd. Rydym hefyd yn archwilio ystod o atebion posibl gyda’n partneriaid awdurdod lleol gan y bydd angen i ni gynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael mewn lleoliadau eraill, yn ddelfrydol yn Sir Benfro, wrth i’r gaeaf agosáu a’r pwysau ar ein system yn debygol o gynyddu.

Nac ydym. Nid ydym yn ceisio cau ysbyty Llwynhelyg. Mae Llwynhelyg yn rhan o’n strategaeth tymor hwy fel yr amlinellwyd yn Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach (agor mewn dolen newydd). Ein gweledigaeth yw y bydd Llwynhelyg yn cael ei ailwampio ac yn parhau i ddarparu ystod o wasanaethau i'n cymuned. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod sawl ardal yn ysbyty Llwynhelyg yn hen ac angen cryn dipyn o waith - mae darganfod RAAC yn dystiolaeth bellach o hyn.

Bydd datblygiad yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd arfaethedig yn ne ardal Hywel Dda yn cymryd nifer o flynyddoedd i’w gwblhau. Rydym yn gwneud cynnydd o ran dewis leoliad ein hysbyty newydd ond ni fydd yn barod am beth amser. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i weld cynnydd yn y galw ar ein hysbytai ac nid oes bwriad i gau Llwynhelyg.

Mae datgan digwyddiad mawr mewnol mewn perthynas â RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg yn ein galluogi i weithredu ein strwythurau gorchymyn a rheoli mewnol (Aur, Arian ac Efydd), gan gydnabod y bydd angen i’n timau ymateb yn gyflym pan fydd planciau RAAC is-safonol yn cael eu darganfod wrth i waith arolygu barhau.

Drwy alw digwyddiad mawr mewnol, mae’r bwrdd iechyd hefyd yn gallu blaenoriaethu gwaith ein timau i ymdrin â’r mater a manteisio ar gymorth gan asiantaethau partner sy’n aelodau o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: