Neidio i'r prif gynnwy

Technoleg wisgadwy i atal codymau

Watch Er mwyn helpu i atal codymau a nodi risgiau eraill i chi, rydym yn defnyddio dyfais wisgadwy tele-iechyd i gasglu data pwysig sy'n gysylltiedig ag eiddilwch a'r perygl o gael codwm.

Un o'r dyfeisiau sy'n cael ei defnyddio i'n helpu i nodi'r risgiau hyn yw oriawr syml. Bydd yr oriawr yn monitro eich gweithgarwch yn ystod y dydd, eich patrwm cysgu a'ch symudedd i weld a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch.

Mae dyfeisiau gwisgadwy yn dechnoleg sy'n cael ei gyflwyno ar draws Hywel Dda yn ystod y misoedd nesaf. Ynghyd ag ymgynghoriadau fideo, negeseuon testun, holiaduron ac ati, bydd teleiechyd yn rhoi popeth sydd ei angen arnoch i reoli eich iechyd eich hun.

Cymorth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos:

Cysylltwch â thîm Llesiant Delta
Ffôn: 0300 333 2222
Ebost: info@deltawellbeing.org.uk

Darllenwch fwy am rai o'r technolegau digidol eraill yn Hywel Dda yma (agor mewn dolen newydd)

Mae hysbysiad preifatrwydd yn ddatganiad sy'n disgrifio sut y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn casglu, defnyddio, cadw a datgelu gwybodaeth bersonol. Edrychwch ar y hysbysiad preifatrwydd llawn - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yma (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: