Yn ystod y pandemig COVID-19 rydym wedi parhau i ddarparu gofal a thriniaethau brys i’n cleifion, er bod llawer o’n hapwyntiadau a’n triniaethau mwy arferol wedi cael eu gohirio.
Rydym yn ailddechrau llawer o’r gwasanaethau a gafodd eu hatal.
Yn yr un modd â sefydliadau eraill y GIG, byddwn yn trefnu triniaethau cleifion yn nhrefn eu blaenoriaeth o safbwynt clinigol. Fodd bynnag, bydd angen i gleifion fod yn barod i aros yn hirach nag y byddent wedi aros cyn y pandemig COVID-19.
Dylech gysylltu â’ch meddyg teulu os yw eich cyflwr clinigol wedi newid o gwbl. Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, dylech ddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd yn llythyr(au) eich apwyntiad i gysylltu â’r gwasanaeth perthnasol. Os nad yw’r wybodaeth honno gennych, dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Cymorth i Gleifion (agor mewn dolen newydd) a fydd yn gallu eich helpu.
Cliciwch ar un o’r gwasanaethau isod i gael y wybodaeth ddiweddaraf: