Neidio i'r prif gynnwy

Y fferyllfa yn gyntaf y Nadolig hwn

Gyda'r Nadolig yn prysur agosáu, a chynnydd mewn achosion o Covid 19, mae pobl yn cael eu hannog i fod gall y gaeaf hwn trwy ymweld â'u fferyllydd lleol ar gyfer mân gyflyrau, yn hytrach na mynd at eu meddyg teulu neu'r adran damweiniau ac achosion brys.

O boen cefn i losg cylla i ddannodd, gall fferyllwyr ddarparu cyngor am ddim a thriniaeth ar gyfer ystod o gyflyrau cyffredin ar gyfer y teulu cyfan.

Mae'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn cwmpasu 27 o gyflyrau lle y gall fferyllydd asesu a rhoi meddyginiaeth am ddim, os yw'n addas, heb fod angen am bresgripsiwn. Mae'r gwasanaeth yn rhoi cyfle i gleifion ofyn am gyngor neu driniaeth gan fferyllfa gymunedol sy'n cymryd rhan, a hynny ar gyfer rhestr benodol o anhwylderau, yn hytrach na mynd at eu meddyg teulu. 

Yn dilyn ymgynghoriad byr dros y ffôn neu mewn person, bydd y fferyllydd yn rhoi cyngor, yn cyflenwi meddyginiaeth oddi ar rhestr gan y GIG, neu, lle bo angen, yn atgyfeirio'r claf at ei feddyg teulu. 

Dywedodd Richard Evans, fferyllydd cymunedol sy'n cymryd rhan yn y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin: “Mae fferyllwyr cymunedol wedi arfer cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser wedi argymell triniaethau priodol i'r claf, neu os oes angen, eu cyfeirio at Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol arall.

“Yn ystod y pandemig hwn, cyflenwi presgripsiynau yw’r prif ffocws o hyd, fodd bynnag, mae rhai gwasanaethau eraill hefyd ar gael, fel y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, cyflenwi meddyginiaethau ar frys ac atal cenhedlu brys.

“Nawr, gall rhai o’r gwasanaethau hyn gael eu gwneud mewn ymgynghoriad dros y ffôn, â’r claf neu berthynas/gofalwr yn casglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol.

“Cofiwch archebu unrhyw feddyginiaeth rheolaidd mewn da bryd cyn i chi redeg allan ohonynt.”

Yn ogystal â’r arbenigedd proffesiynol a gynigir mewn fferyllfeydd, gall cleifion cymwys gael y brechlyn ffliw am ddim i’w diogelu nhw ac eraill y gaeaf hwn.

Gofynnwn i chi beidio mynd i fferyllfa os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich cartref unrhyw symptomau COVID-19.

Am fanylion cyswllt ac oriau agor Nadolig a Blwyddyn Newydd eich fferyllfa leol, trowch at: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/