Mae cleifion y galon ledled gorllewin Cymru yn beilot technoleg newydd arloesol sy'n caniatáu i glinigwyr fonitro eu hiechyd a'u hadferiad o’u cartrefi.
Yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws a thu hwnt, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llesiant Delta (agor mewn dolen newydd) i gefnogi pobl â phroblemau'r galon gan ddefnyddio ap ffôn newydd, o'r enw MyMobile, sy'n adrodd ar eu cyflwr.
Mae'r rhaglen beilot, sydd wedi bod yn cefnogi cleifion y galon ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yn golygu y gellir nodi newidiadau i iechyd claf, neu unrhyw ymateb i feddyginiaeth, cyn gynted â phosibl gan sicrhau y gellir darparu cymorth os oes angen.
Mae'r dull digidol newydd hwn yn caniatáu i bobl gofnodi eu symptomau a'u harwyddion bywyd hanfodol, gan gynnwys pwysau a phwysedd gwaed, a fydd yn cael eu hadolygu gan y clinigwr a'u hadrodd yn ôl i'r claf i gofnodi cynnydd a nodi unrhyw bryderon.
Mae'r dechnoleg, sy'n ychwanegu at y gofal a gynigir eisoes gan weithwyr iechyd proffesiynol, hefyd yn caniatáu i gleifion gael ymgynghoriadau drwy fideo sy'n helpu i osgoi ymweliadau diangen â chlinigau neu ysbytai, sydd wedi bod yn hollbwysig i leihau'r risg a lledaeniad COVID-19 yn ystod y pandemig.
Bydd y ffordd newydd ac arloesol hon o weithio yn helpu i leddfu rhywfaint ar y pwysau y mae'r GIG yn ei wynebu ar hyn o bryd. Yn ogystal, dywedodd rhai cleifion sy'n defnyddio technoleg bod monitro eu hiechyd eu hunain wedi dod yn rhan o'u trefn ddyddiol arferol, a byddent yn cymryd darlleniadau'n fwy rheolaidd.
Wrth siarad am rôl hanfodol technoleg teleiechyd i fonitro llesiant cleifion drwy gydol y pandemig, dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae newidiadau yn y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu yn ystod y pandemig wedi bod yn hanfodol. Mae hyn wedi helpu i leihau'r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â COVID-19 a'i ledaenu a lleihau effaith ymchwydd cleifion ar gyfleusterau.
“Fel bwrdd iechyd, rydym wedi gorfod addasu'r ffordd rydym yn gwerthuso ac yn gofalu am gleifion gan ddefnyddio dulliau nad ydynt yn dibynnu ar wasanaethau wyneb yn wyneb traddodiadol. Mae technoleg teleiechyd wedi bod yn llwyddiannus wrth ddarparu gofal angenrheidiol i gleifion er mwyn sicrhau bod eu llesiant wedi parhau i gael ei fonitro'n rheolaidd a galluogi ymyrraeth gynnar i gael rhagor o gymorth os oes angen.”
Fel rhan o'r cyfnod beilot, mae cleifion yn cael offer i gymryd darlleniadau, gan gynnwys offer pwysedd gwaed, clorian bwyso ac ocsifesurydd pwls.
Bydd nyrsys cardioleg arbenigol yn gallu monitro symptomau a chynnydd pob claf o bell, a chynnal ymgynghoriadau fideo pan fo angen er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon. Pan fydd angen, trefnir ymweliadau â'r ysbyty i gael triniaeth ac ymgynghoriad pellach.
Wrth siarad am sut y mae'r ffordd chwyldroadol hon o weithio wedi bod yn cefnogi cleifion y galon ar draws gorllewin Cymru, dywedodd Clare Marshall, Nyrs Methiant y Galon ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae offer teleiechyd yn caniatáu i mi reoli newidiadau i feddyginiaethau o bell sy'n golygu yn yr hinsawdd bresennol, nad oes angen i'r claf ddod i ardal glinigol lle mae risg o ddod i gysylltiad â Covid-19, ac mae'r cleifion yn falch o hynny.
“Rwyf wedi gallu atal claf rhag gorfod mynd i'r ysbyty ar ôl i gyfradd ei galon ostwng yn dilyn newid meddyginiaeth. Roeddwn yn gallu ei gynghori i leihau'r feddyginiaeth, cofnodi cyfradd ei galon dros y penwythnos ac yna roedd modd i mi adolygu hyn drwy ddefnyddio teleiechyd ar y dydd Llun. Oherwydd y newid hwn, roedd cyfradd ei galon wedi cynyddu.”
Mae rhagor o fanylion am sut y mae technoleg teleiechyd wedi bod yn cefnogi cleifion ar gael ar-lein yn https://biphdd.gig.cymru/digidol/gofal-trwy-gymorth-technoleg/ (agor mewn dolen newydd)