Neidio i'r prif gynnwy
Jill Paterson

Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hir-dymor

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB

01267 235151

jill.paterson@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hir-dymor

Rwy'n dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth sefydliadol i'm portffolio cyfredol. Cefais fy nghyflogi i’r bwrdd iechyd pan sefydlwyd ef i ddechrau fel dirprwy gyfarwyddwr gofal sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl a gofal tymor hir cyn cael fy mhenodi yn gyfarwyddwr gofal sylfaenol, gofal cymunedol a hirdymor yn 2015, ac yna fy mhenodi yn fy swydd gyfarwyddwr presennol yn 2017.

Cyn hynny, roeddwn yn gyfarwyddwr nyrsio a dirprwy brif weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin  a chyn hynny cefais fy mhenodi’n gyfarwyddwr nyrsio ar gyfer Awdurdod Iechyd Dyfed Powys.

Rwy’n angerddol am y GIG, ac wedi cynnal fy niddordeb cryf mewn gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol, a’r cyfle i ddarparu dull amlasiantaethol integredig o ddarparu gofal fel rhan o system gyfan integredig.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: