Neidio i'r prif gynnwy

Pobl sy'n cysgodi i dderbyn brechlyn mewn canolfan frechu dorfol

Mewn ymateb i gyflenwadau brechlyn COVID-19 a gadarnhawyd ar gyfer yr wythnos i ddod, bydd pobl sy'n cysgodi ac nad ydynt eisoes wedi cael cynnig apwyntiad gan eu meddygon teulu yn cael eu gwahodd i dderbyn eu brechiad mewn canolfan frechu dorfol, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau.

Cyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon y byddai pawb yng ngrŵp blaenoriaeth 4 JCVI (70 i 74 oed neu'n hynod fregus yn glinigol (cysgodi)) yn derbyn y brechlyn gan eu meddygfa.

Fodd bynnag, yn dilyn cadarnhad o nifer y brechlynnau sydd ar gael i ardal y bwrdd iechyd yr wythnos nesaf, mae angen gofyn i oddeutu 2,000 o bobl o’r grŵp blaenoriaeth hwn fynd i ganolfan frechu dorfol yn lle er mwyn osgoi unrhyw oedi cyn derbyn eu brechlyn.

Bydd pobl rhwng 70 a 74 oed yn parhau i dderbyn eu brechlyn mewn meddygfa fel y cadarnhawyd yn flaenorol.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hon yn raglen gyflym iawn ac weithiau bydd angen i ni ddiweddaru ein cynlluniau ar sail cyflenwad brechlyn wedi'i gadarnhau, a all newid wythnos ar ôl wythnos.

“Ymddiheurwn am unrhyw ddryswch y gallai’r newid hwn fod wedi’i achosi ond byddwch yn sicr bod y penderfyniad hwn yn angenrheidiol er mwyn osgoi unrhyw oedi diangen i’r grŵp hwn sy’n agored i niwed yn glinigol dderbyn eu brechlyn. Cysylltir yn uniongyrchol â phobl sy'n cysgodi ynghylch eu hapwyntiad.

“Bydd pobl rhwng 70 a 74 oed yn parhau i gael eu gwahodd i dderbyn eu brechlyn mewn meddygfa a hoffem sicrhau’r grŵp hwn ein bod wedi cadarnhau cyflenwadau brechlyn i frechu pawb yn y grŵp oedran hwn.”

Mae canolfannau brechu torfol yn darparu amgylchedd diogel, lle i gynnal pellter cymdeithasol wrth ganiatáu i fwy o bobl gael eu brechu mor effeithlon a chyn gynted â phosibl. Mae'n hanfodol eich bod yn gwneud pob ymdrech i ddod i'ch apwyntiad.

I ddarganfod mwy am eich canolfan frechu torfol agosaf, ewch i Canolfannau brechu torfol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)