Neidio i'r prif gynnwy

Oes gennych chi anhwylder cyffredin? Ymwelwch â'ch fferyllydd lleol yn hytrach na'ch meddyg teulu i gael cyngor a thriniaeth

Ar gyfer anhwylderau cyffredin fel poen cefn neu ewinedd traed sy'n tyfu i’r byw, anogir trigolion Canobarth a Gorllewin Cymru i ymweld â'u fferyllydd lleol i gael cyngor a thriniaeth yn hytrach na chysylltu â'u meddyg teulu neu fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys i helpu i gadw Cymru'n Ddiogel.

Mae'r ffordd yr ydym yn cyrchu gwasanaethau GIG lleol wedi newid i helpu i dynnu'r straen oddi ar ein hysbytai, adrannau damweiniau ac achosion brys a meddygfeydd. Mae'r cynllun anhwylderau cyffredin yn caniatáu i fferyllwyr asesu a thrin hyd at 26 o fân gyflyrau, gyda'r holl feddyginiaethau'n cael eu rhoi yn rhad ac am ddim heb fod angen presgripsiwn. Mae'r cynllun ar gael mewn bron i 100 o fferyllfeydd cymunedol ledled Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Mae'r amodau sydd wedi'u cynnwys o dan y cynllun anhwylderau cyffredin yn cynnwys diffyg traul, rhwymedd, dolur rhydd, rhefrwst, clefyd y gwair, llau pen, dannodd, brech cewynnau, colig, brech yr ieir, llyngr, dolur gwddf, tarwden y traed, heintiau llygaid, llid yr amrannau, intertrigo, wlserau'r geg , doluriau annwyd, plorynnod, croen sych / dermatitis, verruca, poen cefn, enwinedd traed sy’n tyfu i’r byw, llindag y fagina, llindag y geg a chlefyd y crafu.

Mewn arolwg diweddar gan YouGov a gynhaliwyd ar gyfer ymgyrch Cadw’n Ddiogel Llywodraeth Cymru, nododd 88 y cant o’r rhai a arolygwyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru ei bod yn bwysig gallu siarad â fferyllydd sydd wedi’i hyfforddi’n feddygol i drin anhwylder cyffredin. Roedd pum deg pedwar y cant o'r rhai a holwyd wedi ymweld â fferyllfa sy'n rhedeg y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin o leiaf unwaith dros y 12 mis diwethaf ac o'r rheini, roedd 24% wedi ymweld â fferyllfa fwy na phum gwaith.

Dywedodd Richard Evans, Fferyllydd Cymunedol sy'n cymryd rhan yn y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin sy'n gweithio mewn Fferyllfeydd ledled gorllewin Cymru:

“Yn ystod y pandemig presennol rydym yn annog pawb i'n helpu ni i'ch helpu chi - gwnewch eich fferyllfa leol yn fan galw cyntaf i chi. Gallwn gynnig cyngor a thriniaeth arbenigol ar gyfer mwyafrif yr anhwylderau cyffredin. Os ydych chi'n dangos symptomau COVID-19, peidiwch ag ymweld â ni ond gallwn roi ymghynghoriad i glaf dros y ffôn a gall gofalwr / aelod o'r teulu gasglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol."

Dywedodd chwe deg dau y cant o'r rhai a arolygwyd gan YouGov yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru y byddant yn parhau i gael mynediad at wasanaethau'r GIG gan ddefnyddio'r ffyrdd newydd sydd wedi'u cyflwyno o ganlyniad i'r pandemig. Mae'r dulliau newydd yn cynnwys gwneud mwy o ddefnydd o fferyllwyr; rhith-ymgynghoriadau meddygon teulu a defnyddio gwasanaethau ar-lein a ffôn GIG 111.

Peidiwch ag ymweld â fferyllfa os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich cartref unrhyw symptomau COVID-19. I gael manylion cyswllt yr holl fferyllfeydd lleol ledled Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, ewch i: Fferyllfa - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)