Neidio i'r prif gynnwy

Meddygfa Solfach i gael ei rheoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

24 Chwefror 2023

Bydd Meddygfa Solfach yn cael ei rhedeg fel practis a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, penderfynwyd ddoe (dydd Iau 23 Chwefror 2023).

Rhoddodd y Practis hysbysiad ar ei gontract gyda’r Bwrdd Iechyd, a ddaw i rym o ddiwedd mis Mawrth 2023.

Cyfarfu panel i ystyried opsiynau ar gyfer y dyfodol a chynhaliwyd ymarfer ymgysylltu gan y Bwrdd Iechyd i glywed barn cleifion a phobl a sefydliadau â diddordeb.

Derbyniwyd mwy na 1,200 o ymatebion i holiadur gyda llawer o gleifion yn mynegi cymaint yr oeddent yn gwerthfawrogi cael gwasanaethau yn cael eu darparu iddynt yn eu cymuned leol. Yn ogystal â llythyrau, e-byst a phresenoldeb mewn digwyddiad ymgysylltu lleol a gynhaliwyd ddiwedd mis Ionawr.

O 1 Ebrill, bydd y Practis yn dod o dan reolaeth y Bwrdd Iechyd, gyda'r staff cymwys yn trosglwyddo drosodd ac yn darparu parhad pwysig yn y Practis.


Bydd y rhan fwyaf o gleifion cofrestredig yn parhau i fod o dan ofal y Practis, fodd bynnag, bydd y Bwrdd Iechyd yn ysgrifennu at gleifion sy'n byw y tu allan i ffiniau'r Practis i'w hysbysu y bydd eu cofrestriad yn cael ei drosglwyddo i feddygfa lle maent yn byw.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cydnabod bod presgripsiynu yn wasanaeth y mae cleifion yn ei werthfawrogi er hwylustod, fodd bynnag ni fydd yr hawliau presgripsiynu sydd gan Dr Dhaduvai ar hyn o bryd yn trosglwyddo sy'n golygu y bydd y broses o roi meddyginiaeth ym Meddygfa Solfach yn dod i ben ar 31 Mawrth.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda'r Practis a fferyllfeydd lleol i wneud y cyfnod pontio hwn mor hawdd â phosibl, a chynhelir adolygiad ehangach o wasanaethau fferyllol.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wedi gwrando ar gleifion Meddygfa Solfach ac rwy’n falch o gadarnhau y byddwn yn parhau i gynnig gwasanaethau meddyg teulu iddynt drwy bractis a reolir gan y bwrdd iechyd.

“Rydym wedi croesawu’r gwaith a wnaed gan Gyngor Cymuned Solfach yn ystod yr wythnosau diwethaf, a byddwn yn gweithio gyda’r cymunedau ar draws y penrhyn a phractisau cyfagos gan ystyried gyda’n gilydd eu syniadau ar sut y gellid darparu gwasanaethau’n gynaliadwy yn y tymor hwy.

“Ar ran y Bwrdd hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i roi eu hadborth, sydd wedi bod yn ganolog wrth lunio ein penderfyniad heddiw.”

Ychwanegodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch i’r holl gleifion a rhanddeiliaid lleol a ymatebodd i’n hymarfer ymgysylltu ac a rannodd eu barn.

“Roedd yn amlwg o’r adborth faint mae cleifion yn gwerthfawrogi eu gwasanaethau lleol yn eu cymunedau. Er y bydd cael Practis a Reolir yn dod â rhai heriau i'r Bwrdd Iechyd fel staffio’r gwasanaeth meddygon teulu, rydym yn falch o fod yn cynnig yr opsiwn agosaf at wasanaethau presennol i gleifion.”

Bydd y Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda thîm y practis i gynnal gwasanaethau diogel ac effeithiol i gleifion, ac yn diolch iddynt am eu hymdrechion parhaus yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn ysgrifennu at bob claf unwaith y bydd y manylion terfynol wedi'u cadarnhau. I wylio’r cyfarfod, ewch i: Agenda a phapurau'r bwrdd 23 Chwefror 2023 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) a Extraordinary Board Meeting - YouTube (saesneg)