Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaeth orthodonteg newydd yn dod â gofal yn nes at gartref

27 Hydref 2021

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o gyhoeddi y bydd y gwasanaethau orthodonteg i gleifion ardal Gogledd Ceredigion a Llanbed yn cael eu darparu yn agosach i'w cartref o 1 Dachwedd. 

Bydd preswylwyr sy’n byw yn ardaloedd cod post SY a SA48 nawr yn gallu derbyn eu triniaeth yn My Dentist yn Llanbedr yn hytrach na theithio i Gaerfyrddin. 

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gwasanaethau Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (agor mewn dolen newydd): “Maw hwn yn ddatblygiad cyffrous yn ardal Gogledd Ceredigion ac mae’r Swyddfa Deintyddol a’r bwrdd iechyd yn edrych ymlaen at ddechrau’r gwasanaeth hwn. 

“Bydd y contract newydd hwn yn galluogi cleifion o’r ardal i gael mynediad at ofal orthodonteg yn agosach i’w cartref sy’n rhywbeth y mae’r bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio i'w gyflawni ers cyn amser. 

Hoffem ddiolch i ddarpar gleifion am eu cefnogaeth i gadw at y broses uchod a fydd yn sicrhau y gellir asesu a chefnogi pob claf cyn gynted a phosibl.” 

Nid oes angen i gleifion sydd eisoes ar y rhestr aros orthodonteg gymryd unrhyw gamau pellach. 

Ni ddylai cleifion gysylltu â’r practis yn uniongyrchol ag ymholiadau rhestrau aros. Dylai unrhyw un sydd â chwestiynau am y rhestr aros ffonio 01267 229696 neu e-bostio HDHB.Dental.hdd@wales.nhs.uk.  

Bydd cleifion yn cael eu dyrannu i'r practis o’r rhestr aros yn seiliedig ar eu hangen clinigol am driniaeth orthodonteg y GIG.

Bydd y practis yn gweithredu yn unol â chanllawiau cenedlaethol i sicrhau diogelwch cleifion a staff. Mae hyn yn golygu y byddant yn defnyddio PPE priodol a fydd yn cael effaith ar nifer y cleifion y gall y practis eu gweld yn ddiogel bob dydd ac felly efallai y bydd rhywfaint o oedi ychwanegol wrth gael mynediad at ofal.