Neidio i'r prif gynnwy

Mae amser o hyd i gael eich brechlyn COVID-19

10 Ionawr, 2022

Gyda’r nifer cynyddol o achosion o’r amrywiad Omicron o COVID-19 yng Nghymru, mae’n bwysicach nag erioed amddiffyn eich hun ac eraill.

 

Mae’r brechlyn COVID-19 yn parhau i fod yn un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hun rhag salwch difrifol a lleihau lledaeniad y firws.

Gall trigolion Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro sy’n 12 oed neu’n hŷn fynychu clinigau galw heibio ym mhob canolfan frechu torfol. Mae cymorth trafnidiaeth ar gael i'r rhai sydd angen cymorth i gyrraedd canolfan frechu torfol. Mae amseroedd agor eich canolfan frechu torfol agosaf ar gael ar y dudalen brechu COVID-19 ar ein gwefan: Canolfannau brechu torfol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Gyda’r nifer cynyddol o achosion o’r amrywiad omicron o COVID-19 yn ein hardal, mae cwrs llawn y brechiadau yn parhau i fod y ffordd orau i’ch amddiffyn eich hun a'n cymuned rhag salwch difrifol a lledaenu'r firws.

“Mae ein timau yn y canolfannau brechu torfol ar draws y tair sir wedi bod yn gweithio’n ddiflino dros y misoedd diwethaf i helpu i frechu’r gymuned. Rydym yn ymdrechu i adael neb ar ôl, ac yn eich annog i ddod ymlaen a galw heibio i unrhyw un o'n canolfannau brechu torfol os nad ydych wedi derbyn eich brechlynnau cyntaf, ail, trydydd neu ddos atgyfnerthu eto.

“Helpwch ni i’ch helpu i aros yn ddiogel trwy gael eich brechlyn COVID-19.”

Mae cleifion sy'n gaeth i'r tŷ yn parhau i gael eu cefnogi gan bractisau meddygon teulu lleol, lle mae eu staffio'n caniatáu, tra mewn ardaloedd eraill bydd ein tîm brechu cymunedol yn trefnu ymweld a chynnig brechiad. Os ydych eisoes wedi cysylltu â’r bwrdd iechyd gyda’ch manylion nid oes angen i chi gysylltu â ni eto a byddwn mewn cysylltiad yn fuan iawn.

Fodd bynnag, peidiwch â mynychu os ydych yn teimlo'n sâl neu os ydych wedi cael prawf positif COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf. Ar hyn o bryd, cynghorir rhai o dan 18 oed i aros 12 wythnos ar ôl prawf positif COVID-19 cyn cael unrhyw ddos COVID-19.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os na allwch fynychu clinig galw heibio, trefnwch apwyntiad drwy gysylltu â’r bwrdd iechyd yn uniongyrchol ar 0300 303 8322 neu COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk i drefnu apwyntiad.