Neidio i'r prif gynnwy

Lansio prosiect peilot i gynyddu cefnogaeth i ofalwyr di-dâl

Mae prosiect i helpu gofalwyr di-dâl i gael gwybodaeth a chefnogaeth wedi lansio ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae’r nifer o ofalwyr di-dâl yn cynydduac mewn cydnabyddiaeth o’u cyfraniad i gynorthwyo yn y gwaith o ofalu am eu perthnasau a ffrindiau, mae’r bwrdd iechyd wedi comisiynu prosiect peilot i sefydlu pedwar Swyddog Gofalwyr yn ysbytai Tywysog Philip, Glangwili, Llwynhelyg a Bronglais. 

Mae’r prosiect peilot yn bartneriaeth rhwng y bwrdd iechyd a’n partneriaid awdurdod lleol, ac mae’n cael ei ddarparu gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Crossroads Sir Gâr, Gofalwyr Ceredigion a Hafal Crossroads. 

Meddai Clare Hale, Rheolwr Partneriaethau Strategol a Chynhwysiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Bydd y Swyddogion Gofalwyr yn chwarae rhan hanfodol gan helpu i roi cefnogaeth a chyngor i ofalwyr di-dâl are u taith trwy’r ysbyty – boed fel gofalwr a/neu glaf. 

“Bydd y Swyddogion Gofalwyr yn gweithio’n uniongyrchol gyda wardiau ysbyty i gefnogi gofalwyr a chodi ymwybyddiaeth staff o’r problemau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl, er mwyn sicrhau cyswllt effeithiol ar faterion megis rhyddhau o ysbyty.”

Meddai Anna Bird, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bod o fod yn gweithio mewn partneriaeth ar y prosiect hwn a fydd yn ein galluogi i dynnu sylw at yr agenda gofalwyr di-dâl yn y bwrdd iechyd gan helpu i nodi a chefnogi gofalwyr sy’n cyfrannu cymaint at ein cymunedau ar draws y rhanbarth.”

I ganfod mwy am y prosiect, cysylltwch â:

Clare Hale, Rheolwr Partneriaethau Strategol a Chynhwysiant ar 01554 899051 / CarersTeam.HDD@wales.nhs.uk neu trowch at: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/gwybodaeth-i-ofalwyr/

Gallwch hefyd gysylltu â’r Swyddogion Gofalwyr yn uniongyrchol:

Ysbyty Bronglais

Al Frean - 07984 464977 / al@credu.cymru

Ysbyty Glangwili
Ben Innocent - 07971 597273 / ben1@carmarthenshirecarers.org.uk  

Ysbyty Tywysog Philip

Dawn Walters - 07971 597218/ dawn@carmarthenshirecarers.org.uk

Ysbyty Llwynhelyg

Karen Butler - 07712 658331 / karen.butler@hafal.org

Yn y llun o’r chwith i’r dde mae’r Swyddogion Gofalwyr: Al Frean, Ben Innocent, Karen Butler a Dawn Walters (tynnwyd y llun cyn Covid)