Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i ofalwyr

Beth yw gofalwr?
Mae Gofalwyr Ifanc yn blant a phobl ifanc (o dan 18 oed) sy'n gofalu am rywun yn eu teulu sydd â salwch, anabledd neu sy'n cael ei effeithio gan afiechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. Mae Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc, rhwng 16 a 25 oed.

Gall unrhyw un fod yn ofalwr ac, yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw bod yn ofalwr yn ddewis; mae’n rhywbeth sy’n digwydd ar hap.

Mae’n bwysig cefnogi gofalwyr fel eu bod yn gallu parhau i roi gofal i berthynas neu ffrind.

Mae gofalwwyr yn gwneud hyn a mwy ar gyfer teulu a ffrindiau sy’n hŷn, un sâl neu ag anabledd, rhoi meddyginiaeth, cefnogaeth ymarferol, cefnogaeth emosiynol, gofal personol, meterion ariannol, help corfforol a hyn oll tra’n ceisio cynnal eu bywyd eu hunain. 

Pam ydyn ni’n cefnogi Gofalwyr?

Mae’r bwrdd iechyd yn cydnabod y cyfraniad y mae Gofalwyr yn ei wneud drwy gefnogi’r person y maent yn gofalu amdano na fyddai’n gallu ymdopi fel arall heb eu cymorth. Mae gofalwyr yn chwarae rhan bwysig wrth gadw teuluoedd a chymunedau gyda'i gilydd a gwneud cyfraniad enfawr i gymdeithas. Rydym am helpu pobl nad ydynt yn meddwl amdanynt eu hunain fel rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu. Rydym am eu helpu i nodi eu bod yn ofalwyr di-dâl a chael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt i gynnal eu hiechyd a'u lles eu hunain.

Er y gall gofalu fod yn gadarnhaol ac yn rhoi boddhad, gall hefyd gael effaith negyddol ar les corfforol ac emosiynol gofalwyr. Mae’r rhan fwyaf o ofalwyr yn derbyn eu cyfrifoldebau fel y dymunant i gynorthwyo a chefnogi eu teulu a’u ffrindiau. Gall gofalu fod yn unig; gall eithrio pobl o gyflogaeth, arwain at arwahanrwydd cymdeithasol, caledi ariannol ac anawsterau i gynnal eu bywyd eu hunain. Ein gweledigaeth yw sicrhau bod gofalwyr yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi fel partneriaid arbenigol mewn gofal.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: