Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad defnydd o'r brechlyn COVID-19 AstraZeneca

Arwydd clinig brechu COVID-19

Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw (dydd Gwener 7 Mai 20201) gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) (agor mewn dolen newydd), gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gadarnhau y bydd pob oedolyn rhwng 18 a 39 oed sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael cynnig Moderna neu Pfizer BioNtech ar gyfer eu brechlyn COVID-19 cyntaf.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn nodi, fel rhagofal, y bydd oedolion sydd heb eu brechu sydd rhwng 30 a 39 oed nad ydynt mewn grŵp blaenoriaeth glinigol sydd â risg uwch o glefyd COVID-19 difrifol, yn cael cynnig dewis arall yn lle brechlyn COVID-19 Oxford AstraZeneca, lle bo hynny'n bosib. Mae hyn eisoes yn wir gydag oedolion o dan 30 oed.

Mae llai na 200 o bobl o dan 39 oed wedi'u bwcio i gael brechlyn cyntaf Oxford AstraZeneca yng Nghanolfan Picton ddydd Sadwrn 8 Mai. Mae'r bwrdd iechyd yn gwneud pob ymdrech i gysylltu â phawb yr effeithir arnynt i gynnig apwyntiad newydd mewn sesiwn sy'n cynnig brechlyn Moderna neu Pfizer BioNtech.

Bydd pob canolfan brechu torfol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro (agor mewn dolen newydd) yn darparu brechlynnau Moderna, Pfizer BioNtech ac Oxford AstraZeneca. Mynychwch eich apwyntiad fel y cynlluniwyd gan y bydd gan eich clinig y brechlyn priodol ar gyfer eich oedran. 

Cysylltwch â'r bwrdd iechyd cyn gynted â phosib dim ond os oes gennych apwyntiad yng Nghanolfan Picton yn Hwlffordd yfory (dydd Sadwrn 8 Mai) ac nad oes neb wedi cysylltu â chi ynglŷn â’r apwyntiad hwnnw. Ddefnyddiwch y rhif ar eich llythyr neu neges destun apwyntiad fel y gellir rhoi apwyntiad newydd i chi.

Meddai Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus BIP Hywel Dda: “Rydym yn deall y gallai cyhoeddiad heddiw achosi peth pryder. Mae brechlyn Oxford AstraZeneca yn frechlyn diogel ac effeithiol, mae achosion o geuladau gwaed sydd â chyfrif platennau isel yn parhau i fod yn brin iawn a chredir ei fod yn ymateb i gysylltiad cyntaf. Mae'r penderfyniad i roi'r gorau i ddefnyddio brechlyn Oxford AstraZeneca ymhlith y rhai dan 40, oed nad oes ganddynt unrhyw ffactorau risg clinigol, yn adlewyrchu'r cynnydd rhagorol yr ydym yn ei wneud wrth ddod â'r pandemig dan reolaeth a'r cyflenwad cynyddol o'r brechlyn Pfizer BioNTech.

“Os ydych wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn Oxford AstraZeneca a heb ddioddef unrhyw sgil-effeithiau difrifol, argymhellir y dylech gwblhau’r cwrs a chael yr ail frechlyn pan gewch eich gwahodd, waeth beth yw eich oedran, yn unol â chyngor y JVCI.”

Mae brechlyn Oxford AstraZeneca eisoes wedi achub miloedd o fywydau ac yn parhau i fod yn ddiogel ac yn effeithiol i fwyafrif y boblogaeth gyda dros filiwn o bobl wedi cael y brechlyn AZ ers mis Ionawr.

Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael mwy o wybodaeth a gweld y Cwestiynau Cyffredin (agor mewn dolen newydd)