Neidio i'r prif gynnwy

Comisiynydd Plant Cymru yn ymweld â Chanolfan Iechyd Meddwl newydd yng Nghaerfyrddin

11 Hydref 2023

Y Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd hwn, roeddem yn falch o groesawu Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, i’n canolfan iechyd meddwl arloesol yng Nghaerfyrddin.

Dyma hyb argyfwng iechyd meddwl cyntaf Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen cymorth brys ac mae ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Mae’r gwasanaeth wedi derbyn cyllid drwy’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mae Hyb Llesiant Bro Myrddin yn darparu darpariaeth iechyd meddwl bwrpasol 24 awr y dydd ar gyfer plant a phobl ifanc yn yr amgylchedd cywir, ar adeg pan fydd ei angen arnynt fwyaf. Mae Bro Myrddin yn darparu man diogel i blant a phobl ifanc sy'n wynebu argyfwng, gan atal derbyniadau gofidus a diangen i wardiau damweiniau ac achosion brys ac iechyd meddwl.

Bydd ymarferwyr cymorth therapiwtig a chlinigol ymroddedig yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ddarparu ymyriadau sy'n canolbwyntio ar atebion, i leihau ac osgoi'r angen i atgyfeirio at wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd, mewn amgylchedd tawel a diogel.

Dywedodd Dr. Warren Lloyd, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt: “Rydym yn hynod falch o'r fenter hon sy'n darparu gwasanaeth pwrpasol i blant a phobl ifanc sydd mewn argyfwng. Bydd y gwasanaeth yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y lefelau cywir o gymorth pan fydd ei angen fwyaf.’’

Ochr yn ochr â’r Hyb newydd yng Nghaerfyrddin, mae’r Bwrdd Iechyd wedi cydweithio â MIND Sir Benfro ac Adferiad i ddarparu Gwasanaethau Noddfa i blant a phobl ifanc yn Sir Benfro a Cheredigion. Mae gwasanaethau'n gweithredu o ddydd Gwener i ddydd Sul rhwng 17:00 a 22:00 gan ddarparu lle diogel i'r rhai rhwng 12 a 18 oed sy'n wynebu argyfwng neu mewn trallod iechyd meddwl.

Mae gan y Bwrdd Iechyd amrywiaeth o wasanaethau cymorth iechyd meddwl ar gael i blant a phobl ifanc, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma (agor mewn dolen newydd)