Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd meddwl arbenigol plant a'r glasoed

Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (S-CAMHS) yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl.

Rydym wedi ein lleoli yn y gymuned, ac yn cynnwys timau amlddisgyblaethol, a chaiff y gwasanaethau arbenigol eu cydgysylltu a'u darparu o ganolfan ganolog.

Ein nod yw darparu ymyriad cynnar ar yr amser iawn yn y lle iawn bob tro. Mae S-CAMHS yn cynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Sylfaenol ac Eilaidd. 

Rydym yn cynnig asesiadau a thriniaeth pan fydd gan blant a phobl ifanc anawsterau emosiynol, ymddygiadol neu iechyd meddwl yn ogystal â hyrwyddo llesiant emosiynol a gwasanaethau iechyd meddwl ataliol a thriniaeth i blant a phobl ifanc. 

Rydym yn cefnogi athrawon, gweithwyr ieuenctid a phobl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc trwy gynnig cyngor a hyfforddiant ar sut i adnabod anawsterau iechyd meddwl.

Ein nod yw gwella llesiant emosiynol, iechyd meddwl a llesiant seicolegol pob plentyn a pherson ifanc. Cyflawnir hyn drwy hybu iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol, lleihau risg a meithrin cadernid.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: