Neidio i'r prif gynnwy

Adleoli canolfan frechu torfol Hwlffordd i Ganolfan Picton dros dro

Mae canolfan frechu torfol Hwlffordd wedi symud dros dro o Archifau Sir Benfro i Ganolfan Picton o ddydd Llun 19 Ebrill tan ar ôl etholiad y Senedd ar 6 Mai.

Mae Canolfan Picton wedi'i lleoli yn 104 Freemens Way, Hwlffordd SA61 1UG (drws nesaf i Neuadd y Sir). Peidiwch â mynychu dim ond os ydych wedi cael gwahoddiad i dderbyn eich brechiad COVID-19.

Dywedodd Bethan Lewis, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd): “Mae’r holl apwyntiadau a ddyrannwyd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Picton o heddiw ymlaen, tra bod Archifau Sir Benfro yn cael eu defnyddio ar gyfer etholiad y Senedd.

“Mae’n debygol y bydd y bwrdd iechyd yn dychwelyd i Archifau Sir Benfro unwaith nad oes ei angen mwyach ar gyfer yr etholiad a byddwn yn rhoi gwybod i bobl pan fydd hyn yn digwydd.”

Ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Prifysgl Hywel Dda yn gwahodd pobl rhwng 40 a 49 oed i dderbyn eu brechiad COVID-19 cyntaf yn ei ganolfannau brechu torfol. Mae'r canolfannau hefyd yn parhau i roi dosau ail frechlyn i'r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 4 a dderbyniodd eu brechlyn cyntaf mewn canolfan.

I gael mwy o wybodaeth am raglen brechu torfol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/