Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen frechu COVID-19

Bydd ein canolfannau brechu yn parhau i fod ar agor trwy gydol mis Mawrth i bobl gymwys 18 oed a hŷn ar gyfer y brechlyn ffliw a 12 oed a hŷn ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu COVID-19.

Gall pobl sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw sy'n 18 oed neu'n hŷn alw heibio i ganolfan frechu, nid oes angen apwyntiad. Gofynnir i unrhyw un o dan 18 oed sydd angen brechlyn ffliw gysylltu â'r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu anfon e-bost ask.hdd@wales.nhs.uk i drefnu eu brechlyn.

Gall pobl sy'n gymwys i gael brechlyn COVID-19 sy'n 12 oed neu'n hŷn alw heibio, nid oes angen apwyntiad, ond os oes angen i chi drefnu brechlyn COVID-19 i rywun dan 12 oed, cysylltwch â'r bwrdd iechyd ar y manylion uchod.

Amseroedd agor galw heibio'r ganolfan frechu:

  • Cwm Cou  (Ysgol Trewen, Castell Newydd Emlyn SA38 9PE) – 9.30am i 5.30pm, dydd Llun a dydd Mercher.
  • Llanelli  (Uned 2a, Stad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW) – 9.30am i 5.30pm, dydd Iau a dydd Gwener (ar gau dydd Iau 14 Mawrth).
  • Neyland  (Uned 1 Parc Manwerthu Honeyborough, SA73 1SE) – 9.30am i 5.30pm, dydd Mawrth a dydd Mercher.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y brechlyn neu os ydych yn gymwys, mae croeso i chi gysylltu â'r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk a byddwn yn hapus i'ch cynghori.

 

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: