Hoffem fynegi ein diolch a'n gwerthfawrogiad twymgalon i aelodau Catrawd Frenhinol Iwerddon sydd wedi bod yn ganolog wrth gefnogi ein rhaglen brofi COVID-19 dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
Mae'r cyfleuster profi yn Aberystwyth yn symud o'i leoliad dros dro presennol (Canolfan Hamdden Plascrug) i Ganolfan Rheidol fel cyfleuster gyrru drwodd (trwy apwyntiad o flaen llaw)
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o fod yn rhan o gydweithrediad GIG Cymru â Pride Cymru i nodi Wythnos Rhithwir Pride GIG Cymru (24 - 30 Awst), gan ddathlu amrywiaeth a chynhwysiant yng ngweithlu'r GIG a'n cymunedau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyflwyno Asesiadau Digidol; ffordd newydd o helpu cleifion i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eu hiechyd rhwng apwyntiadau.
Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled canolbarth a gorllewin Cymru wedi cynhyrchu arweiniad i ymwelwyr â'r rhanbarth i'w cynghori ar sut i gael mynediad at wasanaethau iechyd brys tra ar wyliau.
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod bellach yn gallu symud i'r cam nesaf o ddiweddaru ein polisi ymweld. Er nad yw ymweld yn dychwelyd i sut yr oedd cyn Covid-19, rydym bellach yn gallu gweithredu rhai o'r canllawiau gan Lywodraeth Cymru.
Mae Ysgol Penweddig yn paratoi i ailagor ei drysau yn ddiogel i ddisgyblion ym mis Medi 2020 wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda drosglwyddo'r safle yn ddiolchgar yn ôl i Gyngor Sir Ceredigion.
Pan fydd eich plentyn yn sâl neu wedi'i anafu, mae'n anodd iawn penderfynu a ddylid / pryd i ffonio meddyg teulu, GIG 111 eich plentyn neu fynd i'r Adran Achosion Brys.
Mae disgwyl i amseroedd aros gael eu lleihau i gleifion canser yn ein ardal sydd angen sgan PET/CT arnynt.
Mae Ysbyty maes Caerfyrddin sef Ysbyty Enfys wedi croesawu ei gleifion cyntaf.
Mae staff y GIG o bob rhan o Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Ceredigion wedi dod ynghyd i ddweud diolch wrth y gymuned am eu cefnogaeth yn ystod y pandemig COVID-19.
Mae cyrff cyhoeddus yng ngorllewin Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i brofi unrhyw un sydd â symptomau coronafeirws mewn ymdrech barhaus i amddiffyn ein cymunedau.