Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cymeradwyo prosiect Pentre Awel

Cyhoeddwyd gyntaf yma https://www.bargenddinesigbaeabertawe.cymru/newyddion/llywodraeth-cymru-a-llywodraeth-y-du-yn-cymeradwyo-prosiect-pentre-awel/

Mae prosiect yn Llanelli gwerth miliynau o bunnoedd sy'n cynnwys cyfleusterau busnes, ymchwil, addysg, iechyd a hamdden o'r radd flaenaf wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae'r gymeradwyaeth yn golygu y gall prosiect Pentre Awel bellach gael cyllid o bortffolio buddsoddi Bargen Ddinesig Bae Abertawe i helpu i'w gyflawni.

Cyn bo hir, bydd galw am brif gontractwr i ddechrau ar y gwaith ym mharth un y prosiect yr hydref hwn ar safle 83 erw yn ne Llanelli.

Mae nodweddion Pentre Awel, sy'n cael eu hariannu gan y Fargen Ddinesig a fydd yn cyfrannu £40 miliwn yn y blynyddoedd i ddod, yn cynnwys y canlynol:

  • Mannau meithrin a chyflymu a fydd yn helpu busnesau ymchwil i ddatblygu technoleg gofal iechyd arloesol
  • Canolfan sgiliau llesiant sy'n canolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, gan gynnwys amrywiaeth o gyrsiau lefel mynediad hyd at ôl-raddedig
  • Canolfan ymchwil glinigol
  • Canolfan gofal clinigol i ddarparu gofal amlddisgyblaethol sy'n nes at adref i amrywiaeth eang o wasanaethau cymunedol

Mae Pentre Awel yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a Cholegau.

Rhagwelir y bydd Pentre Awel, a ariennir gan y Fargen Ddinesig, yn creu 1,289 o swyddi. Ar ôl i'r safle cyfan ddod yn weithredol, bydd hyn yn cynyddu i 1,800 o swyddi.

Yn y 15 mlynedd nesaf, bydd Pentre Awel werth £467 miliwn i'r economi leol.

Mae Memoranda Cyd-ddealltwriaeth wedi cael eu llofnodi rhwng Coleg Sir Gâr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd i ddarparu cyrsiau ar y safle, ac mae trafodaethau manwl yn dal i fynd rhagddynt ynghylch penawdau telerau.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i brosiect Pentre Awel ac yn brawf o'r holl waith cynllunio caled sydd wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd.

“Bydd Pentre Awel, sef y cyfleuster mwyaf o ran ei gwmpas a’i faint yng Nghymru, yn darparu gweithgareddau busnes, ymchwil, iechyd, addysg, hamdden a dŵr i gyd ar un safle wedi’i dirlunio yn ne Llanelli. Bydd hyn yn creu amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl leol gan roi hwb sylweddol i'r economi leol a helpu busnesau ymchwil i ddatblygu technoleg gofal iechyd arloesol.

“Mae pobl leol bob amser wedi bod wrth galon cynlluniau Pentre Awel, a dyna pam ein bod wedi ymgynghori'n helaeth â'n partneriaid yn y gymuned i sicrhau bod y prosiect yn darparu ar gyfer yr anghenion o ran gwaith, iechyd a gofal a nodwyd ac a flaenoriaethwyd gan breswylwyr lleol.

“Rydym yn llawn cyffro y byddwn mewn sefyllfa i ddechrau cyflawni'r datblygiad mawr hwn cyn bo hir, a fydd yn helpu i ddenu hyd yn oed rhagor o fuddsoddiad i Lanelli, Sir Gaerfyrddin a'r Ddinas-ranbarth yn y blynyddoedd i ddod ac yn cyflymu ein hadferiad economaidd ymhellach yn dilyn Covid-19.”

Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru: “Wrth i ni ailadeiladu yn well ac yn gryfach yn dilyn y pandemig, mae prosiectau fel Pentre Awel yn dangos sut y gallwn ddod â thwf ac arloesedd i'n cymunedau.

“Mae'r datblygiad hwn yn addo dod â channoedd o swyddi, cyfleusterau arloesol a buddsoddiad sylweddol i'r economi leol. Mae cyflawni prosiectau trawsnewidiol ledled Cymru yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth y DU a dyna pam yr ydym wedi cefnogi bargeinion twf ar draws pob rhan o'r wlad. Rwy'n edrych ymlaen at weld Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn parhau wrth iddi helpu i ryddhau potensial y rhanbarth.”

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog dros yr Economi, Llywodraeth Cymru: “Mae Pentre Awel yn ddatblygiad arloesol yn Sir Gaerfyrddin. Mae gan y prosiect botensial enfawr i greu cyfleoedd cyflogaeth pwysig a darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i bobl yr ardal elwa arnynt.

“Mae hwn yn brosiect cyffrous ac uchelgeisiol iawn, ac rwy'n falch y bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn symud y prosiect ymlaen i'r cam cyflawni.”

Bydd parth un y prosiect - y rhagwelir y bydd wedi'i gwblhau erbyn hydref 2023 - hefyd yn cynnwys canolfan hamdden a gweithgareddau dŵr o'r radd flaenaf a fydd yn cael ei chynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yn ogystal â gwaith tirweddu helaeth i greu meysydd parcio, mannau cyhoeddus a llwybrau cerdded.

Bydd prosiect ehangach Pentre Awel hefyd yn cynnwys llety byw â chymorth a chartref gofal. Bydd cyfleusterau gofal integredig ac adsefydlu corfforol yn galluogi'r gwaith o brofi a threialu technolegau gwyddor bywyd sydd â'r nod o wella byw'n annibynnol a byw â chymorth.

Bydd hefyd yn cynnwys gwesty, lle i fusnesau ehangu, ac elfennau o dai ar y farchnad agored a thai cymdeithasol a fforddiadwy. Bydd mannau awyr agored wedi'u tirlunio ar gyfer hamdden ar y safle yn elwa ar olygfeydd ysblennydd ar draws Aber Llwchwr a Bae Caerfyrddin.

Mae Pentre Awel yn un o naw rhaglen a phrosiect sy'n rhan o bortffolio buddsoddi Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a fydd yn cyfuno i roi hwb o £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol ac yn creu dros 9,000 o swyddi.

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.