Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Enfys Caerfyrddin yn ddarparu gofal i gleifion

Mae Ysbyty maes Caerfyrddin sef Ysbyty Enfys wedi croesawu ei gleifion cyntaf, gan ddarparu gofal a chefnogaeth i'r rhai nad oes angen mewnbwn meddygol arnynt mwyach ond sydd angen rhywfaint o ofal o hyd cyn mynd adref.

Mae nifer fach o gleifion (nad ydynt yn COVID) wedi cael eu symud o Ysbyty Glangwili i Ysbyty Enfys Caerfyrddin lle byddant yn derbyn gofal gan dîm profiadol o nyrsys, therapyddion ac ymgynghorydd preswyl.

*Sylwch nad oes gan Ysbyty Enfys Caerfyrddin adran achosion brys nac unrhyw wasanaeth cerdded i mewn arall ac ni ddylai aelodau o'n cymuned gael mynediad iddo. Mae ymweld yn gyfyngedig fel pob ysbyty arall ond gall staff gofal iechyd helpu i gysylltu cleifion a'u teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau.

Mae ysbytai maes wedi'u sefydlu ym mhob un o'r tair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro fel mesur rhagofal i alluogi'r GIG i ymateb i'r pandemig COVID presennol. Dyma’r tro cyntaf i un o'r ysbytai gael ei ddefnyddio ar gyfer gofal cleifion.

Esboniodd Dr Meinir Jones, arweinydd clinigol yr ysbytai maes a thrawsnewid: “Er bod nifer y cleifion COVID yn ein hysbytai yn lleihau ar hyn o bryd, mae ein hysbytai yn prysuro gyda gweithgaredd meddygol arall ac rydym yn gweld mwy o bobl. Mae'r gweithgaredd hwn wedi cyrraedd y lefel y cytunwyd arni y byddai angen capasiti ychwanegol arnom o'r ysbytai maes. Gosodwyd y lefel hon yn ôl sawl ystyriaeth gan gynnwys yr angen i fod â'r gallu i dderbyn cleifion COVID i'r prif ysbytai acíwt yn unol â'r galw, gan allu cael y nifer cywir o gleifion i gadw at fesurau atal heintiau cyfredol a chanllawiau clinigol newydd, ac adfer rhai gweithdrefnau brys a critigol eraill ar gyfer ein cleifion yn ddiogel."

Mae staffio Ysbyty Enfys Caerfyrddin wedi'i wneud yn bosibl diolch i hyblygrwydd y staff gofal iechyd presennol yn Hywel Dda, y mae rhai ohonynt yn gweithio dros dro mewn rolau gwahanol neu weithio mwy o oriau; yn ogystal a cyn aelodau o staff yn dychwelyd i'r gwaith a recriwtio ychwanegol. Bydd y tîm Profiad y Claf hefyd yn ymwneud yn agos â'r prosiect i fonitro a sicrhau bod profiad cleifion yn yr ysbytai maes yn gadarnhaol ac yn gefnogol i'w hadferiad.

Dywedodd Dr Jones: "Bydd agor Ysbyty Enfys Caerfyrddin yn rhyddhau rhywfaint o'r capasiti yn Ysbyty Glangwili ac yn gymorth i ailsefydlu gweithdrefnau brys eraill sydd wedi'u cynllunio. Rydym yn ymwybodol iawn o'r oedi o ran effaith y gohirio ar gleifion ac ansawdd eu bywyd."

Mae ysbytai maes eraill yn y tair sir ar gael i ymateb yn gyflym ac yn hyblyg pe bai uchafbwynt arall mewn achosion COVID sy'n gosod y galw ar ein gwasanaethau. Roedd y penderfyniad i agor cyfleuster Caerfyrddin, a oedd wedi'i leoli yn y ganolfan hamdden, yn seiliedig ar y broses o fod yn ganolog yn ddaearyddol i fwy o breswylwyr Hywel Dda na safleoedd eraill.

Mae ysbytai acíwt oherwydd eu capasiti gofal dwys, mynediad i theatrau a chyflenwadau megis ocsigen, a'r rhwydwaith cymorth o amgylch yr ysbyty, yn y sefyllfa orau i ddelio â chleifion y mae arnynt angen ymyriad meddygol mwy acíwt ac felly byddant yn parhau i fod y safleoedd sylfaenol ar gyfer cleifion sy'n wael iawn (yn rhai COVID a di COVID).

Yn ogystal â'r ysbytai maes, mae mwy o welyau ar gael hefyd yn ein hysbytai cymunedol lle ceir gwelyau. Y bwriad yw parhau i ddefnyddio'r cyfleusterau hyn ar gyfer cleifion nad ydynt yn rhai COVID. Pe byddem yn gweld unrhyw gynnydd mewn achosion COVID, byddai'r ysbytai maes yn gofalu am gleifion COVID yn unig neu'n cael eu rhannu'n ddiogel i ofalu am gleifion COVID a rhai nad ydynt yn COVID.

Ar hyn o bryd oherwydd natur y galw, bydd Ysbyty Enfys Caerfyrddin yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ' cam i lawr ' o'r ysbyty-y rheiny sydd angen rhyddhad wedi'i gefnogi yn ôl adref neu drwy gefnogaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol – ac o bosibl yn camu i fyny os oes pryder bod angen cymorth ychwanegol ar gleifion yn y gymuned. Mae ysbytai maes eraill yn 'cysgu' ar hyn o bryd ond gellid eu defnyddio os oes angen. Adolygir eu defnydd yn barhaus yn ôl anghenion y GIG ond hefyd newidiadau posibl i gyfyngiadau yng Nghymru.

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "yn ganolog i ddatblygiad y maes ysbytai mae’r hyblygrwydd y gallent ei ganiatáu i ni allu rheoli capasiti a galw drwy gydol y pandemig hwn.

"Yn anffodus nid yw COVID yn mynd i ddiflannu, ac felly mae angen i ni seilio ein cynlluniau nid yn unig ar sut rydym yn rheoli cleifion COVID, ond hefyd sut y gallwn ailgychwyn gwasanaethau eraill a darparu parhad gofal ar draws y system yn ystod y 12 mis nesaf neu fwy.

"Mae ein gwaith cynllunio a chyflawni yn seiliedig ar gyngor clinigol cenedlaethol a lleol a byddwn yn parhau i wneud hynny, gyda'r nod yn y pen draw o sicrhau bod ein poblogaeth mor ddiogel â phosibl pan fydd angen iddynt ddefnyddio ein gwasanaethau gofal.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r cleifion hyn a'u teuluoedd am weithio gyda ni ac am ein galluogi i ddiogelu ein gwelyau acíwt mewn ysbytai, gan ddarparu gofal o ansawdd uchel yn y lleoliadau newydd hyn hefyd."