Neidio i'r prif gynnwy

Yr awr dywyllaf yw'r un cyn y wawr

Mae sefydliadau sydd ar reng flaen ymateb Gorllewin Cymru i COVID-19 wedi rhybuddio bod ein cymunedau yn llygad y storm wrth i ni wynebu achosion uchaf erioed o’r clefyd yn ein hardal.

Mae'r achosion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach ar gyfartaledd dros saith diwrnod o 316.3 fesul 100,000 o'r boblogaeth, ac yn Sir Gaerfyrddin, mae hyn mor uchel â 448.2 (ffigurau 03 Rhagfyr-09 Rhag).

Mae hyn yn cymharu, er enghraifft, â 242 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth yn Llundain, a 199 fesul 100,000 yn Birmingham yn ystod yr un cyfnod.

Mae hyn yn rhoi straen ar ein gwasanaethau GIG cymunedol ac ysbytai, gyda mwy na 150 o bobl mewn ysbytai acíwt lleol â COVID-19, sy'n fwy na'r brig yn ystod y cam cyntaf.

Mae hyn yn creu problemau stafiof, gan fod nifer sylweddol, o ddeutu 930 o staff y bwrdd iechyd i ffwrdd o’r gwaith naill ai'n sâl neu'n ynysu. Mae gweithwyr proffesiynol clinigol a staff cymorth mewn dan bwysau sylweddol wrth iddynt ddelio â chleifion COVID a rhai nad ydynt yn COVID.

Dywed arweinwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chynghorau Sir yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro eu bod yn wynebu sefyllfa o argyfwng ac mae angen i'r gymuned wneud hyd yn oed mwy o aberthau er mwyn cadw ein cymunedau'n ddiogel.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Maria Battle: “Yr awr dywyllaf yw’r un cyn y wawr, ac er bod gobaith ar y gorwel ar ffurf y brechlyn, mae hyn yn teimlo fel ein hawr anoddaf eto. Mae ein GIG a staff gofal eraill a gweithwyr allweddol wedi rhoi eu hunain ar flaen y gad. Er ei bod yn anodd ar hyn o’r bryd wrth inni agosáu at amser arbennig o'r flwyddyn, gallai'r risg yr ydym i gyd yn ei hwynebu gael ei lleihau'n fawr wrth i bob un ohonom weithredu. "

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Emlyn Dole: “Rydym yn bryderus iawn ynghylch lledaeniad cyflym y feirws yng nghymunedau Sir Gaerfyrddin. Rydym mor bryderus ein bod yn gofyn i bobl ystyried hunan-ynysu er mwyn amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd yn y cyfnod cyn y Nadolig gyda'r firws yn lledaenu mor gyflym. Gwnewch bopeth o fewn eich gallu i gadw'n ddiogel. ”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn “Mae hwn yn un Nadolig o blith nifer a bydd dathliadau’r ŵyl eleni yn wahanol. Rhaid i ni aberthu gweld anwyliaid fel y gallwn gwrdd ar adeg arall pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau felly cyfyngwch y nifer o bobl rydych chi'n eu gweld i chwarae'ch rhan. Bydd hyn yn cadw ein teuluoedd a'n ffrindiau'n ddiogel ac yn amddiffyn ein gwasanaethau GIG cymunedol ac ysbytai."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd David Simpson: “Rwy’n deall bod pobl wedi bod yn edrych ymlaen at y Nadolig hyd yn oed yn fwy nag erioed o ystyried yr hyn rydyn ni wedi bod drwyddo eleni. Ond nid nawr yw'r amser i daflu holl waith caled ac aberth y naw mis diwethaf i ffwrdd. Os ydym yn cyfyngu ar nifer y bobl rydyn ni'n cwrdd â nhw dros y Nadolig, byddwn ni'n helpu i atal y lledaeniad. Trwy atal y lledaeniad rydym yn atal marwolaethau pellach, dyna yw’r gwirionedd. Mae gennym olau ar ddiwedd y twnnel wrth gyflwyno'r brechlynnau - bydd cadw at y rheolau nawr yn talu ar ei ganfed i bob un ohonom yn yr hir dymor.”

Ymhlith y camau ymarferol y gall pob un ohonom eu cymryd mae:

• Cadw dau fetr ar wahân, golchi eich dwylo'n drylwyr ac yn rheolaidd a gwisgo gorchudd wyneb pan fo angen

• Meddwl yn ofalus am eich cynlluniau Nadolig a dim ond gwneud yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud, nid yr hyn y gallwch chi ei wneud

• Osgoi rhyngweithio cymdeithasol corfforol ac unrhyw gynulliadau

• Gweithio gartref ac osgoi rhannu ceir

Mae hefyd yn bwysig hunan-ynysu a chael eich profi os ydych chi'n dangos unrhyw symptomau ac i hunan-ynysu os yw aelod arall o'r cartref yn dangos symptomau.