Neidio i'r prif gynnwy

Yn ein calonnau am byth – Gwasanaeth Coffa Babanod

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal ei wasanaeth coffa babanod blynyddol ddydd Mercher 14 Hydref 2020 am 6.30pm.

Am y tro cyntaf, bydd yn cael ei gynnal fel gwasanaeth rhithwir a bydd yn cael ei ffrydio'n fyw trwy Microsoft Teams.

Oherwydd pandemig Covid-19, ni allai gwasanaeth y gwanwyn yng Nghaerfyrddin a gwasanaeth mis Medi yn Hwlffordd fynd ymlaen. Roedd y Tîm Gofal Ysbrydol ynghyd â'r Uned Bydwreigiaeth a Neo-enedigol a Rhieni Gynaecoleg eisiau cynnig gwasanaeth amgen i rieni a pherthnasau ddod at ei gilydd i gofio eu babanod annwyl sydd wedi marw cyn, yn ystod neu ar ôl genedigaeth.

Bydd y seremoni rithwir, sy'n cyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Colli Babanod, yn cynnwys ardaloedd capeli Glangwili a Llwynhelyg sy'n lleoliadau cyfarwydd a chyffyrddus i'r mynychwyr.

Dywedodd Euryl Howells, Uwch Gaplan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae'r gwasanaeth ar gyfer unrhyw un sydd wedi profi colli babi, i fyfyrio a rhannu gyda rhieni a theuluoedd eraill ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol a allai fod wedi darparu gofal a chefnogaeth bryd hynny ac ers hynny.”

Bydd y gwasanaeth hwn yn datgan y galar a'r boen sy'n parhau ac wedi'i drefnu fel achlysur tawel, myfyriol a chefnogol. Mae croeso i bawb ddod, waeth beth yw eu ffydd neu eu credoau crefyddol.

Bydd Staff Caplaniaeth yn arwain y gwasanaeth gyda chyfraniadau gan gydweithwyr gofal iechyd o'r ddau safle a fyddai fel arfer yn cysylltu wyneb yn wyneb yn ystod gwasanaethau blaenorol.

Bydd y seremoni yn cynnwys detholiad o gerddi, darlleniadau, a gweddïau ynghyd â cherddoriaeth briodol. Efallai yr hoffech gael eich cannwyll eich hun y cewch eich gwahodd i oleuo yn ystod y gwasanaeth.

Bydd swigod yn cael eu rhyddhau ar y diwedd fel arwydd coffa.

Rhoddir cyfeiriad e-bost unigryw isod i chi anfon eich neges ymlaen, a fydd yn cael ei rhoi ar y goeden goffa a'r llyfr. Darparwch gyfeiriad e-bost i ni estyn y gwahoddiad i ymuno â'r ddolen we i wylio.

Parhaodd Euryl: “Gan na allwn gwrdd yn y ffordd arferol -  os ydych yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch, yna mae croeso i chi gysylltu â'r Adran Gaplaniaeth neu'r gefnogaeth profedigaeth a gynigir gan y tîm Bydwreigiaeth.

“Os na allwch ddod ond yr hoffech gael cannwyll wedi’i goleuo neu i gynnig neges, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost.”

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, i gofrestru'ch presenoldeb a derbyn dolen i fynychu'r llif byw neu i ofyn am neges neu gannwyll, cysylltwch â Swyddfa Caplaniaeth y Bwrdd Iechyd 01267 227563 neu Loved.Forever.HDD@wales.nhs.uk