Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil yn parhau wrth wraidd gofal cleifion ar draws Hywel Dda

Mae staff Ymchwil a Datblygu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol (20 Mai 2020).

Mae gan bob un o'r pedwar ysbyty acíwt yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - ysbytai Bronglais, Glangwili, Llwynhelyg  a'r Tywysog Philip dîm ymchwil a datblygu sy'n gweithio trwy gydol y flwyddyn ar astudiaethau i ganiatáu ar gyfer gwella gofal a thriniaeth cleifion.

Gall triniaethau fod yn gyffuriau newydd neu'n gyfuniadau newydd o gyffuriau, gweithdrefnau neu ddyfeisiau llawfeddygol newydd, neu ffyrdd newydd o ddefnyddio triniaethau sy'n bodoli eisoes.

Mae Dr Philip Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi talu teyrnged i'r rhai sy'n gweithio ym maes ymchwil a datblygu ledled gorllewin Cymru.

Dywedodd Dr Kloer: “Mae'r sefydliadau gorau a'r rhai sy'n darparu gofal o'r ansawdd gorau yn weithredol mewn ymchwil ac ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd ymchwil i frwydro yn erbyn clefyd newydd fel COVID-19.

“Yn Hywel Dda rydym yn cymryd rhan mewn deg treial clinigol gyda'r nod o frwydro yn erbyn COVID-19. Mae rhai o'r rheini wedi'u hanelu at brofi meddyginiaethau newydd addawol; mae eraill yn ymwneud ag edrych ar ddyfeisiau anadlu newydd a deall sut mae'r clefyd COVID yn effeithio ar bobl.

“Rwyf am ddiolch i bawb yn ein hadran ymchwil a datblygu anhygoel ond hefyd i’r holl gleifion a staff sy’n ymwneud â threialon clinigol. Mae eich cefnogaeth a'ch mewnbwn yn wirioneddol yn ein helpu i frwydro yn erbyn COVID-19."

Mae Linda O’Brien, yn Nyrs Ymchwil sy’n gweithio ar hyn o bryd mewn ardal COVID yn Ysbyty Tywysog Philip.

Meddai Linda: “Mae pandemig COVID wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ymchwil ac ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar ddwy astudiaeth glinigol.

“Enw’r astudiaeth gyntaf yw RECOVERY (Gwerthusiad ar Hap o Therapi COVID-19) ac mae’n dreial clinigol cenedlaethol, dan arweiniad Prifysgol Rhydychen, sydd â’r nod o nodi triniaethau a allai fod yn fuddiol i oedolion sydd yn yr ysbyty â COVID-19.

“Enw’r ail astudiaeth rwy’n ymwneud â hi yw CCP-UK, astudiaeth o’r clefyd COVID-19 i ddeall ei ledaeniad a’i ymddygiad yn well trwy ddadansoddi samplau a data biolegol gan gleifion ag achosion wedi’u cadarnhau o’r clefyd ledled y DU.

“Y llynedd ar Ddiwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol roeddem yn gallu gwahodd staff a chleifion i’r adran i ddarganfod mwy am y gwaith rydym yn ei wneud a sut i gymryd rhan mewn astudiaeth glinigol.

“Yn amlwg, nid ydym yn gallu gwneud hynny eleni, fodd bynnag, mae wedi rhoi mwy o gyfle inni ymweld â wardiau lawer mwy a chael mwy o sgyrsiau gyda staff a chleifion am y gwaith a wnawn a sut y gallant gymryd rhan.”

I ddarganfod mwy am ymchwil a datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/82343.

LLUN 1: Tîm ymchwil a datblygu 

LLUN 2: Linda O’Brien, Nyrs Ymchwil yn Ysbyty Tywysog Prince Philip