Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog Iechyd yn canmol gweithio mewn partneriaeth yn Ysbyty Cymunedol

6 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan a’r Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol Julie Morgan wedi ymweld ag Ysbyty De Sir Benfro yn Noc Penfro i ddysgu mwy am sut mae gweithio mewn partneriaeth yn helpu cleifion yn Sir Benfro i gael y gofal gorau.

Daeth yr ymweliad yr wythnos diwethaf (dydd Mercher, 31 Mai) cyn y cyhoeddiad heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi hyd at £30m i ddarparu mwy o ofal yn y cartref neu yn y gymuned a lleihau’r amser y mae pobl yn ei dreulio mewn ysbytai.

Mae’r Gweinidog Iechyd a’r Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol wedi nodi sut y byddant yn gweithio gyda llywodraeth leol, y GIG a phartneriaid eraill i gryfhau gwasanaethau gofal lleol er mwyn helpu i liniaru’r math o bwysau ar y system iechyd a gofal a welwyd y gaeaf hwn.

I weld hyn ar waith, ymwelodd Eluned Morgan a Julie Morgan â’r Ganolfan Gydgysylltu yn Ysbyty De Sir Benfro i glywed mwy am y fenter Ar hynt yn gynt, lle mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Benfro a’r trydydd sector yn cydweithio i ddyrannu’r gofal priodol i bobl ar draws y sir.

Mae’r Ganolfan Gydgysylltu, sy’n gweithredu saith diwrnod yr wythnos, 8am i 6pm ac wedi’i staffio gan dîm o glinigwyr a chydlynwyr profiadol, yn darparu un lle ar gyfer cydgysylltu a brysbennu atgyfeiriadau ac ymholiadau ynghylch anghenion gofal arferol a gofal brys a chanolradd wedi’i gynllunio ar gyfer pobl Sir Benfro.

Dywedodd Eluned Morgan fod y fenter Ar hynt yn gynt, wedi gwneud argraff arni. Dywedodd: “Rwy’n meddwl bod hon yn enghraifft o’r union beth rydym yn ceisio ei gyflawni ledled Cymru felly rydym am weld awdurdodau lleol yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd i wneud yn siŵr y gallwn ryddhau pobl o'r ysbyty yn gynt o lawer.

“Ond rydym yn cydnabod fod llawer o waith y mae angen i ni ei wneud mewn perthynas ag atal. Ac mae pawb sy’n cydweithio yma yn gwbl allweddol ac rwy’n meddwl, mewn perthynas â gofal, bod hynny’n hollbwysig hefyd.”

Cytunodd Julie Morgan a chanmolodd y gwaith yn y Ganolfan Gydgysylltu.

Meddai: “Rwy’n meddwl ein bod ni wedi gweld enghraifft dda iawn o ble mae pawb yn gweithio gyda’i gilydd yn yr un ystafell yn y Ganolfan Cydgysylltu. Roedd hi mor drawiadol gweld pawb yno gyda'i gilydd a gall y rhai sy'n delio â galwadau gyfeirio pobl ymlaen at arbenigwyr sy’n eistedd yn yr un ystafell â nhw. Y mater allweddol mewn gwirionedd yw ceisio atal derbyniadau i’r ysbyty a gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw pobl yn y gymuned ac rwy’n meddwl bod hon yn enghraifft wych.”

Cyfarfu’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog hefyd â staff a chleifion yn Nhŷ Martello – cyfleuster i gleifion sy’n derbyn gofal ar ôl dod allan o’r ysbyty a gofal ail-alluogi i’w hatal rhag dychwelyd i’r ysbyty ac i allu byw’n annibynnol gartref.

Cafodd y claf Paul McGrath o Ddoc Penfro gyfle i siarad â’r Gweinidogion am ei brofiad yn Nhŷ Martello.

Cafodd Mr McGrath lawdriniaeth ar y galon yn gynharach eleni ac ar ôl misoedd o driniaeth a gwellhad yn yr ysbyty, cafodd Mr McGrath ei drosglwyddo i Dŷ Martello. Mae wedi bod yno ers pythefnos ac yn gobeithio mynd yn ôl adref ymhen rhyw wythnos.

Dywedodd: “Oherwydd y ffordd y mae Tŷ Martello. yn gweithio, mae wedi gwneud i mi deimlo’n llawer mwy cyfforddus yn gwneud pethau. Rydw i wedi gallu codi a symud o gwmpas sydd wedi bod o gymorth aruthrol. Yn sicr, mae bod yma a beth rydw i wedi bod yn ei wneud, symud o gwmpas a cherdded, gwneud pethau i mi fy hun wedi helpu fy symudedd a fy hyder.

“Maen nhw’n annog cerdded a chynnal y drefn ffisiotherapi a roddwyd i mi. Gwneud paneidiau o de, paned o goffi, gwneud brecwast i chi’ch hun, y math yna o beth. Gwneud pethau o ddydd i ddydd.”

Dywedodd Mr McGrath fod bod yn nhŷ Martello wedi cyflymu ei broses adfer.

“Pan ddes i yma gyntaf, doeddwn i ddim yn gallu gweld fy hun yn mynd gartref - roeddwn i'n poeni am hynny. Ond fe wnaeth bod yma wneud i mi sylweddoli fy mod i fod i fod gartref. Gallaf fod gartref, gallaf barhau â beth bynnag rwy'n ei wneud yma. Popeth rydw i'n ei wneud yma, gallaf ei wneud gartref."

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hon yn flaenoriaeth i ni a’n sefydliadau partner. Trwy gydweithio i gydlynu a darparu ein gwasanaethau gallwn gefnogi unigolion i aros gartref neu yn eu cymuned gyda’r lefel gywir o ofal a chefnogaeth fel eu bod yn treulio llai o amser yn yr ysbyty.”

Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu: “Mae gennym hanes o weithio mewn partneriaeth ardderchog yn Sir Benfro, gydag iechyd, y trydydd sector a gofal cymdeithasol yr awdurdod yn darparu prosiectau a gwasanaethau sy’n cefnogi ein cymunedau. Mae’n bwysig canolbwyntio ar yr hyn a fydd o fudd i gleifion – a gwella canlyniadau i’r bobl sy’n byw yn Sir Benfro sydd angen y gwasanaethau iechyd a gofal hanfodol hyn. Bydd y dull hwn yn gwella’r cydgysylltu a’r effeithlonrwydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n addas i’r diben ac yn gwella bywydau’r rhai sydd angen cymorth fwyaf.”

Yn ôl Eluned Morgan, bydd y buddsoddiad newydd o £30m yn helpu cyflawni miloedd o oriau ychwanegol o wasanaethau gofal ail-alluogi ledled Cymru, gan ddarparu dewis arall diogel yn lle mynd i'r ysbyty a gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu aros gartref, neu roi cyfle i bobl adfer yn gyflymach gartref ar ôl bod yn yr Ysbyty.

Bydd yr arian hefyd yn mynd tuag at:

  • Recriwtio mwy o weithwyr cymunedol i gynghori pobl ar sut y maent yn gallu manteisio ar y cymorth a'r gwasanaethau cywir er mwyn eu helpu i adfer a byw bywydau annibynnol;
  • Sicrhau bod Gwasanaeth Ymatebwyr Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (TEC) ar waith gan bob awdurdod lleol erbyn gaeaf 2024. Dim ond 10 awdurdod lleol sydd â'r cyfleuster hwn ar hyn o bryd. Drwy ddefnyddio'r dechnoleg fonitro ddiweddaraf, bydd y gwasanaeth hwn yn sicrhau bod pobl yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt mor gyflym â phosibl;
  • Symud tuag at wasanaeth Nyrsio Cymunedol 24/7 drwy sicrhau bod nyrsys cymunedol ar gael am 10 awr yn ychwanegol y diwrnod ar y Sadwrn a'r Sul ledled Cymru;
  • Cryfhau gofal lliniarol arbenigol yn y gymuned drwy sicrhau bod nyrsys arbenigol ar gael dros nos;
  • Cymorth ymarferol i helpu gwasanaethau lleol i gydweithio er mwyn rhoi cynllun gofal unigol ar waith i'r bobl hynny y nodwyd eu bod fwyaf tebygol o fod angen gofal brys. Bydd hyn yn helpu i leihau nifer y bobl sy'n gorfod mynd i mewn i'r ysbyty.