Neidio i'r prif gynnwy

Uno i amddiffyn ein cymunedau

Mae cyrff cyhoeddus yng ngorllewin Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i brofi unrhyw un sydd â symptomau coronafeirws mewn ymdrech barhaus i amddiffyn ein cymunedau.

Mae trefniadau lleol wedi cael eu sefydlu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ganiatáu i weithwyr hanfodol a gofalwyr di-dâl sydd â symptomau gael mynediad cyflym i brawf am ddim, gan ganiatáu iddynt ddychwelyd i'r gwaith cyn gynted ag y teimlant yn well, os yw eu canlyniad yn negyddol.

Anogir gweithwyr hanfodol, megis y rhai mewn iechyd a gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol, yr heddlu, tân, addysg, bwyd, manwerthu, trafnidiaeth, gwasanaethau cyhoeddus, i gael prawf os oes ganddynt symptomau. Yn ddelfrydol, gallant wneud hyn drwy siarad â'u cyflogwr. Fel arall, gallant gysylltu â'r tîm ymholiadau Covid lleol yn uniongyrchol ar 0300 303 8322 neu drwy anfon e-bost at CovidEnquiries.hdd@wales.nhs.uk (Sylwch mai mater i weithwyr allweddol yn unig yw hwn ac mae manylion am sut y gall aelodau'r cyhoedd gael mynediad i brofion isod).

I gael y rhestr lawn o weithwyr allweddol sy'n gymwys i gael prawf ewch i: https://gov.wales/coronavirus-critical-key-workers-test-eligibility

Gall Aelodau'r cyhoedd wneud cais am brawf drwy ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru: www.gov.wales/apply-coronavirus-test a dewis naill ai canolfan galw heibio neu archebu pecyn profi cartref. Gall y rhai sydd heb fynediad digidol wneud cais am brawf drwy ffonio'r Rhadffôn 119 (rhwng 7am-11pm) a gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119.

Ochr yn ochr â'r trefniadau profi, mae'r gwasanaeth profi, olrhain a diogelu GIG Cymru bellach yn mynd rhagddo ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i olrhain y firws a bydd yn diogelu ein cymunedau ymhellach. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a phob un o'r tri awdurdod lleol yn gweithio'n eithriadol o galed gyda'i gilydd i helpu ein cymunedau lleol i barhau i fyw a gweithio gyda'r firws tra'n gwarchod ei ledaeniad.

Byddent yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â COVID-19 a gofyn iddynt hunan ynysu am hyd at 14 diwrnod, a gofyn am brawf os byddant yn dangos unrhyw symptomau o'r firws. Bydd cynghorydd cyswllt yn cysylltu â'r unigolyn i roi cyngor a chymorth.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Maria Battle, arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion Ellen ap Gwynn ac arweinydd Cyngor Sir Penfro David Simpson mewn datganiad ar y cyd: "Diolch i bob un o'n cymunedau sy'n gweithio mor galed i amddiffyn a chefnogi ei gilydd.

"Wrth i ni barhau i ymateb i'r her y mae Covid19 yn ei chyflwyno i ni i gyd, rydym yn annog pawb i fod yn wyliadwrus a pheidio â llacio'r mesurau sydd eisoes ar waith, fel cynnal a chadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo, er mwyn ein helpu i fyw a gweithio ochr yn ochr â'r firws tra'n rheoli ei ledaeniad.

"Mae gan bob un ohonom ran bwysig i'w chwarae o ran sicrhau ein bod yn parhau i amddiffyn ein cymunedau lleol a chadw Hywel Dda yn ddiogel."

Dywedodd Paul Callard, Rheolwr Trosedd Economaidd Heddlu Dyfed-Powys: “Bydd troseddwyr yn ceisio manteisio ar y pandemig COVID-19 er budd ariannol, felly mae'n bwysig bod pobl yn ymwybodol o sut y bydd yr olrhain yn gweithio, a sut i adnabod sgamiwr posib.” 

Gallwch adrodd galwadau a negeseuon e-bost amheus trwy 101, ar-lein yn https://www.dyfed-powys.police.uk/cy/cysylltwch-a-ni/riportiwch-ar-lein/ neu drwy e-bostio contactcentre@dyfed-powys.pnn.police.uk.

Ni fydd swyddogion olrhain cyswllt byth yn:

• Gofyn i chi ddeialu rhif cyfradd premiwm i siarad â nhw (er enghraifft, y rhai sy'n dechrau gyda 09 neu 087)

• Gofyn i chi wneud unrhyw fath o daliad

• Gofyn i chi am unrhyw fanylion am eich cyfrif banc

• Gofyn am eich manylion cyfryngau cymdeithasol neu fanylion mewngofnodi, neu am eich enwau cyswllt

• Gofyn i chi am unrhyw gyfrineiriau neu binnau, neu ofyn i chi osod unrhyw un dros y ffôn

• Gofyn i chi brynu cynnyrch

• Gofyn i chi ymweld ag unrhyw wefan nad yw'n perthyn i'r Llywodraeth na'r GIG

• Gofyn i chi lawrlwytho unrhyw feddalwedd ar eich dyfais neu ofyn i chi drosglwyddo rheolaeth dros eich cyfrifiadur, ffôn clyfar neu dabled.

Mae'r asiantaethau yn parhau i gwrdd yn rheolaidd yn eu hymateb ar y cyd i'r sefyllfa hon a hefyd drwy Fforwm Cydnerth Lleol Dyfed Powys. Mae'r fforymau lleol yn bartneriaethau aml-asiantaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr o wasanaethau cyhoeddus gan gynnwys yr heddlu, gwasanaethau brys eraill, awdurdodau lleol, y GIG, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill.

Atgoffir aelodau o'r cyhoedd bod gwybodaeth a chyngor swyddogol am coronafeirws ar gael o https://phw.nhs.wales/coronavirus

I amddiffyn eich hun a phobl eraill:

• Golchwch eich dwylo gyda sebon a dŵr yn aml – Gwnewch hyn am o leiaf 20 eiliad

• Golchwch eich dwylo bob amser pan fyddwch yn mynd adref neu gyrraedd y gwaith

• Defnyddiwch gel diheintio dwylo os nad oes sebon a dŵr ar gael

• Gorchuddiwch eich ceg a'ch trwyn â hances neu eich llawes (nid eich dwylo) pan fyddwch yn peswch neu'n tisian

• Rhowch hancesi papur wedi'u defnyddio yn y bin ar unwaith a golchwch eich dwylo wedyn

• Ceisiwch osgoi cysylltiad agos â phobl sy'n sâl

• Peidiwch â chyffwrdd â'ch llygaid, eich trwyn na'ch ceg os nad yw eich dwylo'n lân

Os ydych chi'n teimlo nad ydych chi'n gallu ymdopi â'ch symptomau gartref neu os yw eich cyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw eich symptomau'n gwella ar ôl saith diwrnod, defnyddiwch wasanaeth coronafeirws 111 ar-lein. Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, ffoniwch 111. Mewn argyfwng meddygol, deialwch 999.