Neidio i'r prif gynnwy

Uned profi drwy ffenest car yn agor i weithwyr allweddol

Heddiw, ar faes y sioe, Caerfyrddin mae uned newydd yn agor i brofi gweithwyr allweddol gorllewin Cymru drwy ffenest car. 

Mae’r uned yn cefnogi cyfleusterau profi sydd eisoes yn cynnal profion ar gyfer staff y Gwasanaeth Iechyd a gweithwyr allweddol eraill fel yr heddlu, y gwasanaethau tân ac ambiwlans, staff cartrefi gofal a staff hanfodol arall yr awdurdodau lleol. 

Mae cyfleusterau profi eraill ar gael ar draws y Gorllewin yn Aberystwyth, Aberteifi, Hwlffordd a Llanelli, ac mae ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i sut y gellir cryfhau capasiti ymhellach yng Ngheredigion, Sir Benfro a Phowys. 

Cyflwynwyd yr uned brofi ddiweddaraf hon yn dilyn partneriaeth rhwng Llywodraeth y DU a Deloitte i ddarparu profion coronafeirws ledled y DU i weithwyr allweddol. Mae partneriaid ar y cyfleuster yn y gorllewin hefyd yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Sir Gâr a phartneriaid eraill y Fforwm Lleol Cymru Gydnerth. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Alison Shakeshaft: “Rydym yn ddiolchgar am y gwaith partneriaeth rhwng y llywodraeth ac asiantaethau yn ein hardal i sefydlu'r uned brofi hon sy'n cefnogi capasiti profi ar draws ein hardal fawr. Rydym yn gwasanaethu cymuned wledig ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud profion mor hygyrch â phosib. Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd eraill o ran cyd-gymorth a chefnogi pobl sy'n byw neu'n gweithio ar draws ein ffiniau."
 
Dywedodd Peter Roderick, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Dyfed Powys ar ran Fforwm Lleol Cymru Gydnerth: “Rydym yn falch o gefnogi’r gwaith o ehangu profion ar gyfer ein gweithwyr allweddol yn yr ardal hon, sy'n rhan hanfodol o'n hymateb i'r pandemig hwn. Rydym yn diolch i'n gweithwyr allweddol ac hefyd i'n cymunedau am eu cydweithrediad a'u cymorth parhaus."
 
O bosib, gallai'r cyfleuster hwn, yn ogystal ag unedau profi eraill a dewisiadau amgen sy'n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru, gefnogi ehangu profion cymunedol yn y dyfodol. 

Gall gweithwyr allweddol sy’n symptomatig neu weithwyr allweddol sydd ag aelod o’u cartref sy’n symptomatig, ofyn am brawf trwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Gellir cael manylion ar sut i ofyn am brawf gan sefydliad cyflogi'r gweithiwr allweddol. Os yw prawf yn briodol, ceir slot apwyntiad yn y cyfleuster profi mwyaf cyfleus.
 
Gofynnir i bobl beidio â mynychu unrhyw gyfleusterau profi heb drefniant ymlaen llaw gyda'r bwrdd iechyd, oherwydd gallai hyn niweidio’u gallu i ddarparu profion i'r rhai sydd eu hangen. Hefyd, ni fydd profion yn cael eu cynnal heb apwyntiad ymlaen llaw. 

Nid yw unedau profi yn peri risg i'r cyhoedd gan fod mesurau atal heintiau llym ar waith i amddiffyn pobl, staff a'r gymuned ehangach. 

Am y newyddion diweddaraf o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda trowch at https://biphdd.gig.cymru/