03 Tachwedd 2023
Yn dilyn arolygiad dirybudd ym mis Awst 2023 gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), mae rheolwyr a staff yr Uned Mamolaeth yn Ysbyty Bronglais wedi croesawu cyhoeddi eu hadroddiad terfynol.
Mae Uned Bronglais yn rhan o Dîm Gwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sydd wedi cael eu cydnabod trwy wobrau cenedlaethol am eu hymrwymiad i wella darpariaeth gwasanaeth a diwylliant yn barhaus.
Croesawodd yr arolygwyr ymweliad tridiau dirybudd ym mis Awst. Canolbwyntiodd tîm AGIC ar ofal cynenedigol, esgor ac ôl-enedigol.
Dywed adroddiad arolygu AGIC ei fod wedi arsylwi tîm ymroddedig o staff, a oedd yn ymroddedig i ddarparu gofal o safon uchel i famau beichiog a mamau newydd, a'u teuluoedd. Gwelodd yr arolygwyr staff ar bob lefel yn gweithio'n dda fel tîm i ddarparu profiad cadarnhaol, a oedd wedi'i unigoli ac yn canolbwyntio ar anghenion y menywod a'r bobl sy’n geni yr oeddent yn darparu gofal ar eu cyfer.
Fodd bynnag, roedd angen rhai gwelliannau gan gynnwys yr angen i wella cyfraddau hyfforddiant gorfodol ac adolygu adnoddau’r uned.
Wrth ymateb ar ran Uned Bronglais, dywedodd Kathryn Greaves, Pennaeth Bydwreigiaeth y bwrdd iechyd: “Rydym yn falch bod llawer o’r canlyniadau a arsylwyd ac a nodwyd gan Arolygwyr AGIC yn gadarnhaol. Rydym hefyd yn cydnabod y meysydd yr oedd angen eu gwella, ac mae gennym gynlluniau ar waith eisoes i fynd i'r afael â chanfyddiadau'r adroddiad.
“Fel tîm rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ag AGIC i ddatblygu ein cynllun gwella, a fydd yn canolbwyntio ar ddarparu tystiolaeth o’r hyfforddiant a gynhaliwyd ac adolygiad o adnoddau sydd wedi’u rhoi ar waith i gefnogi argymhellion yr adroddiad.
“Mae’r Tîm Gwasanaethau Mamolaeth o fewn y bwrdd iechyd wedi ymrwymo i ddarparu safonau gofal rhagorol i’n teuluoedd a’n cymunedau. Rwy’n falch iawn bod gwaith y tîm yn Ysbyty Bronglais wedi’i gydnabod mor gyhoeddus.”
Gellir darllen yr adroddiad llawn yma: 01082023 - BronglaisHospital, CY.pdf (agic.org.uk)
DIWEDD