Neidio i'r prif gynnwy

Trin plant sy'n ddifrifol wael yn gyflym

30 Medi 2021

Cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda heddiw y bydd plant sydd fwyaf sâl yn ne ardal Hywel Dda, yn derbyn gofal yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, mewn parhad o newid gwasanaeth dros dro i drin plant yn ddiogel.

Yng ngwanwyn 2020, oherwydd pandemig COVID-19, symudodd y Bwrdd Iechyd uned plant yn ystod y dydd sef Uned Gofal Ambiwladol Pediatreg neu Ward Pâl, yn lleol, a'i staff arbenigol yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. *

Mae'r mesur dros dro hwn yn golygu bod plant dan 16 oed â salwch neu anafiadau difrifol yn cael eu trin yn Ysbyty Glangwili, lle mae Adran Achosion Brys wedi'i chydleoli a gwasanaethau ysbyty plant a staff arbenigol, gan gynnwys ward plant dros nos, uned dibyniaeth uchel plant a gofal ambiwladol plant yn ystod y dydd.

Mae Ysbyty Llwynhelyg yn parhau i drin plant â mân anafiadau fel mân glwyfau, mân losgiadau neu sgaldiadau, brathiadau pryfed, esgyrn posib wedi torri os na chânt eu cam-lunio'n wael, mân anafiadau i'r pen neu'r wyneb, neu ddarnau estron yn y trwyn neu'r glust; yn ogystal ag apwyntiadau cleifion allanol wedi'u bwcio. Fel rhan o'r newid, ac wrth ragweld y bydd mwy o blant yn mynd yn sâl o firysau anadlol yr hydref a'r gaeaf hwn, mae'r Bwrdd Iechyd wedi buddsoddi mewn mwy o offer a gwelyau dibyniaeth uchel yn Ysbyty Glangwili i gefnogi unrhyw gynnydd mewn plant sydd angen triniaeth.

Mae clinigwyr aml-broffesiynol, gan gynnwys uwch feddygon lleol mewn gofal plant (pediatreg), meddygaeth frys, ac anaestheteg, wedi cefnogi'r argymhelliad a'r angen am negeseuon cliriach i'r cyhoedd er mwyn lleihau'r risg o oedi wrth drin plant a phobl ifanc.

Dywedodd Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaethau Menywod a Phlant, Dr Prem Kumar Pitchaikani: “Mae angen i ni osgoi’r oedi a allai gael ei achosi pan aiff plentyn i Adran Achosion Brys Ysbyty Llwynhelyg dim ond i fod angen trosglwyddiad i Ysbyty Glangwili. Bydd parhad y newid gwasanaeth dros dro hwn yn sicrhau y bydd plant sâl iawn, gan gynnwys y nifer cynyddol o blant sy'n debygol o gael firysau anadlol y gaeaf hwn, yn cael mynediad at eu triniaeth ddiffiniol yn gyflymach. Gallant hefyd gael eu monitro a'u trin yn gyflym gan arbenigwyr os byddant yn dirywio. "

Dywedodd y Cyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Meddygaeth Frys, ac Uwch ymgynghorydd yng Nghanolfan Gofal Brys Ysbyty Llwynhelyg, Dr Nicola Drake: “Mae'n hanfodol bwysig bod plant sâl yn cael cefnogaeth pediatregwyr arbenigol ar y cyfle cyntaf. Maent hefyd angen mynediad cynnar at offer arbenigol sy'n cael ei ddarparu a'i fonitro gan bediatregwyr. "

Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Meddygol Dr Phil Kloer: “Mae'n bwysig i ni bwysleisio nad yw hwn yn gynnig i wneud newid pellach, y tu hwnt i ymestyn yr hyn a roddwyd ar waith yn ystod mis Mawrth 2020 o ganlyniad i'r pandemig. Fodd bynnag, mae er budd pawb ein bod yn wirioneddol glir ynghylch sut y gall rhieni a gofalwyr plant, a phobl ifanc, gael gafael ar y cymorth gofal iechyd priodol pan fydd ei angen arnynt. Gobeithiwn y bydd ein hymgyrch gyfathrebu yn osgoi bod rhieni a gofalwyr yn dod â phlant sâl i Ysbyty Llwynhelyg, dim ond i gael eu gohirio a'u dargyfeirio i Ysbyty Glangwili.

“Ein bwriad yw parhau gyda’r sefyllfa dros dro hon a chychwyn adolygiad gan ddechrau ym mis Mawrth 2022 gan adrodd yn ôl i’r Bwrdd Iechyd yn Hydref 2022. Byddwn yn gweithio’n agos gyda Chyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda i sicrhau bod yr adolygiad yn cael ei graffu’n briodol a’n bod yn mesur canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc, yn ogystal â phrofiadau cleifion, a barn ein cymunedau. ”

Bydd y cerbydau ambiwlans pwrpasol sydd wedi bod yn cefnogi trosglwyddiadau plant, babanod, mamau beichiog a chleifion gynaecoleg, yn parhau i gefnogi trosglwyddo cleifion o Ysbyty Llwynhelyg i Ysbyty Glangwili, a hefyd i gefnogi galwadau pediatreg 999 o'r gymuned.

Mae yna hefyd gludiant a chymorth llesiant i deuluoedd a allai fethu â theithio eu hunain am resymau meddygol, neu i'r rheini sy'n gymwys i gael cymorth gyda chostau.

Gall un rhiant / gofalwr aros gyda phlentyn sy'n cael ei dderbyn i'r ysbyty bob amser. Lle mae angen, gallwch ofyn i Brif Nyrs y ward am gefnogaeth gyda llety.

Os ydych chi'n cael anhawster dychwelyd adref ar ôl i'ch plentyn gael ei dderbyn i'r ysbyty, gallwch siarad ag aelod o staff. Gall Prif Nyrsys ward a rheolwyr safle ysbytai drefnu taliad am dacsi dan gytundeb ble nad oes cludiant amgen ar gael.

Mae mwy o wybodaeth am fynediad at wasanaethau gofal iechyd plant yn lleol ar gael ar ein gwefan (agor mewn dolen newydd) wrth chwilio am ‘gwasanaethau plant’.

Os oes gennych brofiad o wasanaethau plant yr ydych am eu rhannu â ni, chwiliwch ein gwefan am ‘arolwg cleifion’ neu ‘cwynion’:

Byddwn yn ymgysylltu â'n cymunedau ynghylch dyfodol gwasanaethau plant yn 2022, ond os ydych chi am rannu eich barn ar y pwynt hwn:

  • Ebostiwch: hyweldda.Engagement@wales.nhs.uk
  • Ysgifennwch: RHADBOST BWRDD IECHYD PRIFYSGOL HYWEL DDA (ni fyddwch angen stamp)
  • Ffoniwch 01554 899 056 (nid yw'r rhif ffôn hwn wedi'i staffio, ond bydd negeseuon yn cael eu recordio).

* Sylwch fod y newidiadau hyn yn effeithio ar wasanaethau plant yn Ysbyty Llwynhelyg yn unig ac mae gwasanaethau oedolion yn yr ysbyty yn aros yr un fath. Mae gwasanaethau pediatreg yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn aros yr un fath. Nid oes unrhyw newid i Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.

 

Ble i gael help os yw fy mhlentyn yn sâl?

Ffoniwch 999 os oes gan eich plentyn anafiadau difrifol neu salwch sy'n peryglu ei fywyd, gan gynnwys trafferthion anadlu difrifol neu anadlu afreolaidd, mynd yn las o amgylch y gwefusau, yn welw ac yn oer iawn, os yn cael ffit neu drawiad, yn llawn trallod, yn gysglyd iawn neu'n anymatebol, yn datblygu brech nad yw'n diflannu gyda phwysau, neu sydd â phoen yn y ceilliau.

Ewch i Uned Mân Anafiadau (24/7 yn Ysbyty Llwynhelyg; o ddydd Llun i ddydd Gwner yn ystod y dydd yn unig yn Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Gofal Integredig Aberteifi) os oes gan eich plentyn fân glwyfau, mân losgiadau neu sgaldiadau, brathiadau pryfed, esgyrn wedi torri  o bosib os nad ydyn nhw wedi'u cam-lunio'n wael, mân anafiadau wyneb, neu ddarn estron yn y trwyn neu'r glust.

 

Cysylltwch â'ch meddyg teulu heddiw os oes gan eich plentyn salwch nad yw’n diflannu, a ddynodir gan dymheredd uchel, crynu, poen yn y cyhyrau, peswch, gwichian, mwy o ymdrech i anadlu, chwydu parhaus / dolur rhydd / poen bol difrifol, gwaed yn ei ysgarthion neu wrin neu ddadhydradiad. Ffoniwch GIG 111 Cymru (24/7) i gael cyngor brys os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud. Ffoniwch 111 i gael cymorth brys pan fydd eich meddygfa arferol, neu wasanaeth gofal sylfaenol arall ar gau.

* Efallai y gofynnir ichi fynd â'ch plentyn i Adran Achosion Brys Ysbyty Glangwili os oes angen mewnbwn gan feddygon plant arbenigol.

Trin gartref neu gysylltu â'ch fferyllydd os oes gan eich plentyn fân salwch neu anhwylder fel dolur gwddf, peswch, croen coslyd, neu os oes angen atal cenhedlu brys ar berson ifanc. Gallwch gael help ar-lein trwy chwilio ‘Gwiriwr Symptomau 111 GIG Cymru’. Mae rhai fferyllfeydd yn cynnig triniaeth heb apwyntiad ar gyfer anafiadau lefel isel.

Os ydych chi'n fyddar neu â nam ar eich lleferydd gallwch gyrchu gwasanaethau 999 gan ddefnyddio ap Relay UK a deialu 999, neu GIG 111 trwy ddeialu 18001 111.