Neidio i'r prif gynnwy

Taith Gerdded Pride Caerfyrddin a Digwyddiad Pride er cof am Kate Rees

Llun o Kate Rees

6 Mehefin 2022

Mae Taith Gerdded Pride Caerfyrddin a Digwyddiad Pride ddydd Sadwrn 11 Mehefin yn cael ei gynnal er cof am ein cydweithiwr o Hywel Dda Kate Rees nee Boyt a fu farw’n annisgwyl yn 2021.

Yn fwyaf diweddar roedd Kate wedi gweithio fel rhan o’r tîm cofnodion iechyd ond wedi gweithio yn Ysbyty Glangwili ers 10 mlynedd.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10am ac ymlaen tan 1pm, ym Mharc Caerfyrddin, gyda thaith gerdded o amgylch y parc gyda llwybrau hygyrch. Bydd ein grŵp rhwydwaith staff LGBTQ+, Enfys, yn rhan o’r digwyddiad Pride a fydd yn darparu lle i sefydliadau lleol ac ehangach a busnesau sy'n eiddo i LGBTQ+ arddangos eu cyfleoedd, a chefnogaeth i'r gymuned LGBTQ+.

Dywedodd mam Kate, Eileen: “Roedd Kate yn llawn asbri; ganwyd hi yn rhy ddiweddar i fod yn hipi, ond cofleidiodd ddelfrydau'r cyfnod hwnnw.

“Roedd hi’n credu bod gan bawb yr hawl i fod yr hyn roedden nhw eisiau bod ac i garu pwy bynnag roedden nhw’n ei garu. Er nad oedd hi yn hoyw, roedd hi'n gefnogol o'r gymuned LGBTQ+ ac roedd ganddi lawer o ffrindiau a chydweithwyr yno.”

“Byddai hi wedi bod eisiau i ni barhau â’i chefnogaeth mewn rhyw ffordd ac roedd yn benderfyniad hawdd i roi cyfran o’i chronfa goffa i sefydliadau LGBTQ+ lleol er mwyn dathlu a hyrwyddo’r achos oedd yn annwyl iddi.

“Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o ddigwyddiadau yn y dyfodol gan ein bod yn gwybod y bydd Kate yno mewn ysbryd.”

Mae croeso i ffrindiau a chydweithwyr Kate ddod, mae’r digwyddiad yn agored i bawb, heb unrhyw gost mynediad, ac mae modd parcio’n hawdd drwy’r meysydd parcio niferus o amgylch y dref.