Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau cyllid i ymestyn y gwasanaeth ieuenctid yn dilyn peilot llwyddiannus

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) wedi derbyn cyllid ychwanegol i barhau gyda'i wasanaeth ChatHealth ar ôl llwyddiant y prosiect cychwynnol.

Lansiodd Tîm Cyswllt Ieuenctid y bwrdd iechyd, mewn cydweithrediad â thimau nyrsio ysgolion, y gwasanaeth testun ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn gynharach eleni i gefnogi pobl ifanc 11-19 oed.

Mae llwyddiant y broses gyflwyno fesul cam wedi arwain at dderbyn cyllid ychwanegol gan y bwrdd iechyd. Bydd hefyd yn caniatáu ymestyn y gwasanaeth i gynnwys y rhai hyd at 25 oed.

Mae ChatHealth yn caniatáu i bobl ifanc anfon neges destun at linell gymorth a chael cefnogaeth gyfrinachol gan dîm o nyrsys cymwys. Gall y gwasanaeth gefnogi pobl ifanc gydag ystod o faterion, o iechyd a llesiant emosiynol, gan gynnwys pryder, dicter, hwyliau isel a pyliau o banig, i berthnasoedd, hunan-niweidio, bwlio, iechyd rhywiol, ac alcohol, ysmygu a chyffuriau.

Dywedodd Judith Thomas, Nyrs Cyswllt Ieuenctid Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae pobl ifanc wedi anfon negeseuon at ChatHealth yn ceisio cyngor ar gyfer ystod o faterion o gyflyrau corfforol, cyngor meddygol i gefnogaeth emosiynol.

“Ein nod yw darparu gwasanaeth teg i bobl ifanc wella mynediad a chanlyniadau iechyd. Bydd cynnydd mewn cyswllt yn darparu cyfleoedd i wneud i bob cyswllt gyfrif p'un a yw hynny'n gyngor trwy neges destun, adnoddau ar-lein neu'n gyswllt wyneb yn wyneb.

“Mae pobl ifanc yn aml yn amharod neu'n teimlo cywilydd ynglŷn â chael cyngor. Trwy ddefnyddio teclyn cyfathrebu y maent yn gyffyrddus ac yn gyfarwydd ag ef, ynghyd â'r anhysbysrwydd, bydd yn dileu'r rhwystrau hynny.

“Gydag effaith COVID-19 rydym yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y bobl ifanc sydd angen cefnogaeth emosiynol a dyma’r llwyfan perffaith ar gyfer y “canol coll”- pobl ifanc nad ydyn nhw'n cwrdd â meini prawf y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Glasoed (CAHMS) ac eto angen cefnogaeth.”

Gan weithio ochr yn ochr â GIG 11 Cymru, bydd y gwasanaeth 111 yng Nghymru nawr yn cyfeirio pobl ifanc ledled Gorllewin Cymru at y gwasanaeth ChatHealth.