Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau brechu rhag y ffliw yn cael eu cynnal i gofalwyr

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i sicrhau bod grŵp blaenoriaeth allweddol o staff yn gallu cael mynediad i'r brechiad cyn misoedd y gaeaf.

Mae'r sesiynau, sy'n cael eu cynnal mewn canolfannau dydd yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli, ar agor i staff y Cyngor yn ogystal â'r rheiny sy'n gweithio yn y sector preifat.

Mae fferyllydd wrth law i roi'r brechiad i hyd at 42 aelod o staff ym mhob sesiwn ar sail apwyntiad. Mae'r Awdurdod wedi cefnogi'r aelodau staff hynny sydd wedi gofyn am y brechiad trwy sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'u rotâu.
Mae mwy na 200 o ofalwyr yn yr Awdurdod a'r sector preifat wedi cael eu brechu hyd yma.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Gan fod mwy o alw am frechiadau rhag y ffliw nag erioed eleni roeddem yn credu ei bod yn hanfodol ein bod yn sicrhau bod ein staff rheng flaen sy’n rhoi cymorth i bobl oedrannus a bregus yn y gymuned yn cael eu diogelu. Trwy weithio gyda'r bwrdd iechyd lleol mae'r sesiynau hyn wedi ei gwneud hi'n haws i staff, a allai fod wedi'i chael hi'n anodd cael apwyntiad i gyd-fynd â'u gwaith allu cael y brechiad gennym trwy drefnu apwyntiadau ar adeg sy'n addas iddyn nhw."

Dywedodd Angela Evans, Pennaeth Fferyllfa Gymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae diogelu staff cartrefi gofal trwy eu brechu rhag y ffliw yn bwysicach nag erioed. Gobeithiwn fod y clinigau ffliw hyn ar gyfer staff gofal cartref wedi bod yn ffordd gyfleus i'r gweithwyr allweddol hyn gael mynediad i'r brechiad ac amddiffyn eu hunain a'u cleientiaid rhag y ffliw y gaeaf hwn. Hoffwn ddiolch i bawb sy'n rhan o'r bartneriaeth hon rhwng cydweithwyr gofal cymdeithasol a fferyllwyr ledled Sir Gaerfyrddin wrth i ni geisio diogelu cynifer o bobl ag y gallwn rhag y ffliw y gaeaf hwn."