Neidio i'r prif gynnwy

Safleoedd posib ysbyty newydd i'w hadolygu gan grŵp gwerthuso

23 Mehefin 2022

Yr wythnos nesaf, bydd pobl o gymunedau ar draws y tair sir yn helpu i sgorio pum safle posib ar gyfer ysbyty newydd mewn parth sy’n cynnwys Arberth a Sanclêr a rhyngddynt.

Y gweithdy ar ddydd Mawrth 28 Mehefin fydd yr ail o ddwy sesiwn dechnegol gydag aelodau o’r cyhoedd, staff a phartneriaid. Cytunodd y gweithdy cyntaf, a gynhaliwyd ym mis Mai, ar ‘bwysoli’ y saith maen prawf technegol i’w defnyddio yn y broses sgorio hon.

Dyma’r safleoedd posib a fydd yn cael eu hadolygu:

  • Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Fferm Kiln Park sydd i'r gogledd o orsaf drenau Arberth ac wrth ymyl yr A478, tua 1km i'r gogledd-ddwyrain o ganol tref Arberth. 
  • Tir amaethyddol i'r gogledd-ddwyrain o ganol tref Hendy-gwyn ar Daf sydd rhwng yr A40 i'r gogledd, Clwb Rygbi Hendy-gwyn ar Daf i'r dwyrain a Gerddi’r Ffynnon i'r de.
  • Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Fferm Tŷ Newydd, sydd i'r dwyrain o safle Hufenfa Hendy-gwyn ar Daf a chanol tref Hendy-gwyn ar Daf. 
  • Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Penllyne Court rhwng Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr ychydig y tu allan i Bwll-Trap. Mae’r safle rhwng llinell rheilffordd Abertawe-Hwlffordd i'r gogledd a'r A40 i'r de.
  • Tir amaethyddol sy'n rhan o hen gaeau Bryncaerau sydd wrth ymyl cyffordd yr A40 a'r A477 yn Sanclêr, rhwng yr A4066 (Ffordd Dinbych-y-Pysgod) i'r de, pentref Pwll-Trap i'r gogledd a'r A40 i'r gorllewin.

Mae pob safle mewn parth sydd y lleoliad mwyaf canolog ar gyfer mwyafrif y boblogaeth yn ne ardal Hywel Dda a phenderfynwyd arno drwy ymgynghoriad cyhoeddus.

Bydd y gweithdy nesaf hwn yn cynnwys y gwaith sgorio gan gynrychiolaeth y mae’r rhan fwyaf ohoni yn aelodau’r cyhoedd o bob rhan o’n rhanbarth ac mae’n cynnwys cyfranogwyr â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Pan gyfarfu'r grŵp ym mis Mai, adolygodd yr aelodau bwysigrwydd cymharol y meini prawf technegol i'w hystyried wrth asesu'r safleoedd. Dyma oedd y canlyniad:

  • Trafnidiaeth a hygyrchedd 19.84%
  • Seilwaith, mynediad a theithio llesol 15.7%
  • Cynaliadwyedd 15.22%
  • Effeithlonrwydd y dyluniad 14.65%
  • Cyflwr y safle 11.81%
  • Amgylcheddol ac ecoleg 11.65%
  • Caffael a chynllunio 11.13%

Mae’r broses yn cael ei rheoli gyda chymorth a chyngor gan The Consultation Institute, corff annibynnol dielw, sy’n darparu canllawiau ar arfer gorau ar gyfer ymgysylltu â chymunedau.

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r bwrdd iechyd wedi ymrwymo ymgymryd â gwaith ymgysylltu sylweddol â’n cymunedau. Mae’r bartneriaeth hon wedi dod â ni gam yn nes at ddewis safle ar gyfer yr ysbyty newydd, felly rwy’n ddiolchgar i gyfranogwyr am eu rhan yn y rhan bwysig hon o’r broses i nodi’r safleoedd gorau ar gyfer ysbyty.

“Bydd canlyniadau'r gweithdy hwn yn cael eu hystyried gan y Bwrdd ym mis Awst, ynghyd â chanfyddiadau grwpiau gwerthuso eraill sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Mae'r grwpiau arfarnu hyn ar hyn o bryd yn adolygu materion clinigol, gweithlu ac economaidd / ariannol.

“Bydd y penderfyniad terfynol am y safle a ddewisir yn cael ei wneud gan y bwrdd iechyd, mewn cytundeb â Llywodraeth Cymru, pe baent yn cefnogi ariannu’r ysbyty.”

Yn gynharach eleni, cyflwynodd y bwrdd iechyd Achos Busnes Rhaglen i Lywodraeth Cymru i gyflawni uchelgeisiau’r strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach a sicrhau buddsoddiad ar raddfa nas gwelwyd erioed o’r blaen yng ngorllewin Cymru.

Y nod yw symud i fod yn wasanaeth sy'n canolbwyntio ar fodel cymdeithasol ar gyfer iechyd, gan weithio gyda phartneriaid i integreiddio'r broses o ddarparu gwasanaethau, hybu llesiant ac atal dirywiad mewn iechyd, darparu cymorth yn gynt, a lle bynnag y bo modd, yn nes at adref.

Un o’r ffactorau allweddol sy’n galluogi hyn yw darparu Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, gan ddarparu gwahaniad pensaernïol rhwng gofal meddygol brys a gofal meddygol wedi’i gynllunio, a fyddai’n osgoi’r risg y gallai gweithgarwch brys effeithio ar ofal wedi’i gynllunio drwy lawdriniaethau a ganslwyd. Mae Ysbyty Llwynhelyg, yn Hwlffordd, ac Ysbyty Glangwili, yng Nghaerfyrddin, ymhlith yr adeiladau ysbyty hynaf yng Nghymru, gan ei gwneud yn anodd bodloni safonau modern ac mae hefyd yn effeithio ar brofiad staff a chleifion. Mae rhai o'r gwasanaethau hyn yn fregus iawn.

Drwy ddwyn y gwasanaethau hyn ynghyd, gall y bwrdd iechyd roi gwell hyfforddiant i staff clinigol a hyfforddeion, lleihau effaith rotas ar unigolion fel eu bod yn helpu i ddenu a chadw staff, a chaniatáu iddynt weld digon o gleifion a gweithio mewn timau sy’n cynnal eu harbenigedd ac yn adeiladu arno.

Uchelgais y bwrdd iechyd yw dod â chyfleoedd i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau iechyd arbenigol i’n cymunedau o fewn ffiniau Hywel Dda nag sy’n bosibl ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae rôl barhaus bwysig i ysbytai Llwynhelyg a Glangwili, a fydd yn gweithredu fel ysbytai cymunedol lleol, gyda gwasanaethau triniaeth ddydd, therapi a gwelyau dan arweiniad nyrsys, yn canolbwyntio ar adsefydlu ac anghenion llai acíwt. Y nod yw i’r rhan fwyaf o bobl gael eu gofal yn lleol. Bydd cleifion ond yn aros yn yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd pan fo gwir angen ar gyfer gofal aciwt, a phan fo’n bosibl byddant yn cael eu trosglwyddo yn ôl i’w cartrefi neu i ysbytai agosach os oes angen cyfnod o adsefydlu arnynt. Rydym yn bwriadu cael unedau mân anafiadau 24/7 yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili, yn seiliedig ar uned mân anafiadau llwyddiannus ysbyty'r Tywysog Phillip.

Nid yw'r bwrdd iechyd yn bwriadu gwneud newidiadau pellach yn Ysbytai Glangwill neu Llwynhelyg nes i'r ysbyty newydd gael ei adeiladu (credwn y bydd yn cymryd tan o leiaf ddiwedd 2029 i agor yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd). A bydd ymgysylltu rheolaidd - gwrando a gweithio gyda'n cymunedau, a'n sefydliadau partner, ac ymgynghori o bosibl ar rannau o'r rhaglen.

Am fwy o wybodaeth a rhestr gyhoeddedig Gwestiynau Cyffredin trowch at wefan y bwrdd iechyd.