Neidio i'r prif gynnwy

"Rydyn ni yma i helpu" meddai'r gwasanaeth cymorth alcohol lleol

Mae'n bwysig ein bod ni'n gofalu am ein llesiant ein hunain ar unrhyw adeg, ond yn fwy felly nawr yn ystod y pandemig cyfredol COVID-19.

Ar adegau o straen, efallai y bydd rhai ohonom, neu deulu a ffrindiau o'n cwmpas, yn yfed mwy o alcohol na'r arfer. Canfu arolwg diweddar gan Alcohol Change UK, ers cyflwyno'r cloi fod 21% o bobl wedi nodi eu bod yn yfed yn amlach a 15% yn yfed symiau mwy.

Gall alcohol effeithio ar ein hwyliau, ansawdd cwsg, perthynas a llesiant cyffredinol. Os ydych chi'n teimlo bod angen help a chefnogaeth arnoch chi neu rywun sy'n agos atoch chi, gallwch gael cymorth ffôn am ddim trwy gysylltu â Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (DDAS) ar 03303 639 997 neu drwy e-bostio: confidential@d-das.co.uk.   

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae rheoli faint o alcohol rydyn ni'n ei yfed yn un o'r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud i ofalu am ein llesiant meddyliol a chorfforol. Mae'n arbennig o bwysig yn ystod pandemig Covid -19 pan all lefelau straen neu bryder fod yn uchel eisoes, felly rwy'n annog unrhyw un sy'n teimlo bod angen cefnogaeth arnynt i gysylltu â'r gwasanaeth. "

Ychwanegodd Sian Roberts, Rheolwr Gwasanaeth DDAS: “Mae DDAS yn dal ar agor i fusnes ac edrychwn ymlaen at eich cefnogi. Gallwch gysylltu â ni i gael cyngor ac arweiniad cyfrinachol am ddim. Rydym hefyd yn cynnal ymgyrch #TimeToBrew sy'n ymwneud ag adeiladu gwytnwch a sicrhau llesiant yn enwedig yn ystod y cyfnod cloi ac wrth inni symud i'r cam nesaf - gallwch ddod o hyd i lawer o adnoddau a dilyn ein hymgyrch yn https://barod.cymru/time-to-brew-campaign-2020/."