6 Mai 2022
Mae rôl newydd wedi'i chreu i gefnogi menywod a’r rhai sy’n geni i gael mynediad at wasanaethau mamolaeth, cyn, yn ystod ac ar ôl genedigaeth.
Bydd y fydwraig Rebecca Hall yn cefnogi defnyddwyr gwasanaethau mamolaeth ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Bydd Rebecca yn siarad â menywod a phobl sy'n geni trwy gyfryngau cymdeithasol, cyfarfodydd grŵp a thrwy eu bydwragedd eu hunain.
Lleolir swydd Rebecca yn bennaf yn Ysbyty Glangwili ond bydd yn teithio i Ysbytai Bronglais a Llwynhelyg a chlinigau cyn geni ar draws y tair sir.
Dywedodd Rebecca: “Ar ôl gweithio fel bydwraig am y tair mlynedd a hanner diwethaf, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu rôl newydd Bydwraig Defnyddiwr Gwasanaeth Mamolaeth/Profiad y Claf.
“Rwy’n ymdrechu i weithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth mamolaeth ac eisiau clywed am eu profiadau o’r gwasanaeth mamolaeth.
“Mae’n gyffrous gweithio ochr yn ochr â defnyddwyr gwasanaethau mamolaeth i greu amgylchedd geni cadarnhaol.”
Ychwanegodd Kathryn Greaves, Pennaeth Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Menywod: “Mae cael bydwraig arbenigol benodol ar gyfer profiad menywod i ymgysylltu â menywod, pobl sy’n geni a theuluoedd yn hollbwysig i unrhyw wasanaeth mamolaeth. Mae’n cefnogi’r gwasanaeth i ddeall ansawdd profiadau menywod a’r bobl sy’n geni sy’n dewis defnyddio gwasanaethau mamolaeth Hywel Dda.
“Mae’r rôl yn helpu menywod a’r gwasanaeth i chwilio am gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae rôl Rebecca yn annog ac yn creu canolbwynt cymunedol sy’n dod â menywod a phobl sy’n geni sy’n ceisio gwasanaethau yn Hywel Dda ynghyd a’r timau sy’n cefnogi menywod trwy gydol beichiogrwydd, genedigaeth a thu hwnt i gyd-gynhyrchu gwasanaeth sy’n cyd-fynd ag anghenion y boblogaeth leol.
“Mae angen Rebecca ar bawb ac rydym yn ffodus ei bod wedi dewis gweithio yn Hywel Dda.”