Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi sêl bendith i'r prosiect campysau ym mhortffolio'r Fargen Ddinesig

Mae prosiect Campysau gwerth £132 miliwn Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Gyda £15 miliwn wedi'i sicrhau i ddatblygu safleoedd yn Nhreforys a Singleton, bydd y prosiect hwn yn hyrwyddo arloesedd a thwf busnes yn y sectorau Technoleg Feddygol a Thechnoleg Chwaraeon sy'n ehangu.

Arweinir y prosiect gan Brifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Partneriaeth Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) a phartneriaid allweddol yn y sector preifat. Bwriedir cynhyrchu dros 1,000 o swyddi yn ardal Abertawe a bydd yn werth dros £150 miliwn i'r economi ranbarthol erbyn 2033.

Darllen mwy yma: Rhoi sêl bendith i'r prosiect campysau ym mhortffolio'r Fargen Ddinesig | Bargen Ddinesig Bae Abertawe