Neidio i'r prif gynnwy

Pwysigrwydd prentisiaethau ar gyfer y sector gwyddor gofal iechyd

09 Chwefror 2022

Llongyfarchiadau i Terry Baker, Technegydd Llyfrgell Offer / Cynorthwyydd Gwyddor Gofal Iechyd yn Ysbyty Bronglais, a enillodd Wobr Prentis Illumin8 Educ8 2022.

Yn 54 oed, roedd Terry, a ddechreuodd astudio Gwyddor Gofal Iechyd Lefel 4 y llynedd, yn gyndyn o fynd yn ôl i fyd addysg, ond mae ei gwrs wedi helpu ei hyder. Yma, mae'n sôn am ei brofiad:

Cadw sgiliau yn gyfoes

“Yn fy rôl, rwy’n sicrhau bod yr offer cywir yn cael ei gyflenwi i’r ward. Mae’n bwysig fy mod yn gwybod beth mae’r claf ei eisiau er mwyn iddo gael y gofal gorau posibl y mae’n ei haeddu. Rwy’n dysgu am ofal sy’n canolbwyntio ar y claf ar hyn o bryd. Rwyf mor angerddol am y modiwl hwn. Mae mor bwysig bod pawb mewn gofal iechyd, o dderbynyddion i nyrsys, yn diweddaru eu sgiliau ar y pwnc.”

Yr awydd i ddysgu

“Mae gen i lawer mwy i’w ddysgu, ond rydw i eisoes wedi penderfynu y byddaf yn parhau â’m dysgu ar ôl cwblhau. Rwyf wedi bod wrth fy modd â’r cwrs. Rwyf am annog eraill a dangos nad oes unrhyw beth i boeni amdano. Nid oes neb yn rhy hen i ddysgu. Roeddwn i'n poeni am wneud fy sgiliau hanfodol - yn enwedig mathemateg. Synnais fy hun ac rwyf wedi gwneud yn dda iawn. Rwy'n mwynhau fy aseiniadau yn fawr. Mae’n well gen i ddysgu tra’n gweithio yn hytrach nag eistedd mewn ystafell ddosbarth.”

Rheolwyr Cefnogol

“Roeddwn i’n gyndyn i gofrestru ar y cwrs. Cytunais gan fod fy nghyflogwr yn fy annog yn gyson. Teimlais nad oeddwn yn ddigon clyfar, yn rhy hen, ac y byddwn yn siomi pobl. Mae'r rheolwyr wedi bod yn gefnogol iawn. Maent yn gwybod beth i'w wneud i gael y gorau o’u staff - sef annog dysgu a datblygiad parhaus."

Mae fy hyfforddwr yn arweinydd gwych

Rwy'n cyfarfod â'm hyfforddwr, Jo Duddridge, dros MS Teams. Mae hi'n wych - mae'n gwneud i mi deimlo y gallaf gyflawni cymaint. Dydw i ddim eisiau cwblhau’r cymhwyster i mi neu fy nghyflogwr yn unig, rwyf am ei gwblhau iddi hi hefyd. Dydw i ddim yn ei gweld hi fel athrawes, ond fel arweinydd gwych iawn.

Dywedodd yr Athro Chris Hopkins, Pennaeth Peirianneg Glinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn o Terry, a’r hyn y mae wedi’i gyflawni. Mae ei agwedd a'i awydd i ddysgu wedi bod yn rhagorol. Mae gwyddor gofal iechyd yn rhan hanfodol o’r GIG, ac rwyf bob amser yn awyddus i annog pobl i ystyried gyrfaoedd yn y sector hynod werthfawr hwn.”