Neidio i'r prif gynnwy

Pwysau eithriadol ar ein ysbytai

Bocs glas gyda geiriau neges frys

Hydref 2023

Mae ein hysbytai yn parhau i fod yn hynod o brysur gyda llawer o gleifion sâl â'r galw uchel am ofal brys yn parhau.

Mae hyn yn golygu bod cleifion yn aros yn hirach nag y bydden ni eisiau iddyn nhw. Rydym yn gweithio'n galed gyda chydweithwyr, yn enwedig gyda’r Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac awdurdodau lleol, ac rydyn ni'n gweld cleifion â'r anghenion clinigol uchaf yn gyntaf.

Os y gallwch ein helpu, byddem yn gwerthfawrogi: 

  • Os oes gennych ffrind, aelod o'r teulu, neu unigolyn annwyl i chi, sy'n ddigon iach yn feddygol i gael ei ryddhau o'r ysbyty, helpwch ni drwy ddod i'w casglu yn brydlon. Bydd hyn yn ein galluogi i dderbyn mwy o bobl sy'n aros am wely ysbyty.
     
  • Mynychwch Adran Achosion Brys dim ond os oes gennych salwch sy’n bygwth bywyd neu anaf difrifol, megis:
    • Anawsterau anadlu difrifol
    • Poen difrifol neu waedu
    • Poen yn y frest neu amheuaeth o strôc
    • Anafiadau trawma difrifol (ee o ddamwain car)
       
  • Os oes gennych anaf llai difrifol, ewch i un o'n Hunedau Mân Anafiadau. Gallant drin oedolion a phlant dros 12 mis oed, gydag anafiadau megis:
    • Mân glwyfau
    • Mân losgiadau neu sgaldiadau
    • Brathiadau pryfed
    • Mân anafiadau i'r breichiau, y pen neu'r wyneb
    • Darnau estron yn y trwyn neu'r glust
       
  • Mae gennym ni wasanaethau mân anafiadau neu wasanaethau cerdded i mewn yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod, yn ogystal ag yn ein prif ysbytai acíwt. Am oriau agor, gwiriwch ein gwefan: Brys ac allan o oriau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (yn agor mewn ffenest newydd)
     
  • Os ydych yn sâl neu wedi’u hanafu ac yn ansicr beth i’w wneud, ewch i: GIG 111 Cymru (yn agor mewn ffenest newydd)
     
  • Gall llawer o fferyllfeydd cymunedol hefyd ddarparu gwasanaethau cerdded i mewn, anhwylderau cyffredin neu frysbennu a thrin heb apwyntiad. Gallwch ddarganfod mwy yma: Fferyllfa - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (yn agor mewn ffenest newydd)

 
Diolch am eich cefnogaeth barhaus fel bob amser.