Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd yn cymeradwyo cam nesaf yr ymgynghoriad ar wasanaethau strôc

illustration of man holding sign with a brain pictured

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda heddiw (28 Mai 2026) wedi cymeradwyo lansio ail gam ei ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol gwasanaethau strôc ar draws ei bedwar prif ysbyty.

Mae hyn yn rhan o'r Cynllun Gwasanaethau Clinigol ehangach y mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymgysylltu arno yn ystod haf 2025, sy'n anelu at fynd i'r afael â gwendidau mewn naw gwasanaeth ysbyty allweddol a sicrhau bod gofal yn ddiogel, cynaliadwy, hygyrch a charedig.

Mewn cyfarfod Bwrdd Eithriadol ym mis Chwefror 2026, gwnaeth y Bwrdd Iechyd benderfyniadau am wyth o'r gwasanaethau. Fodd bynnag, ni wnaed unrhyw benderfyniad terfynol ynglŷn â gwasanaethau strôc. Nid yw gwasanaethau strôc yn Hywel Dda yn bodloni safonau clinigol cenedlaethol yn gyson ac maent wedi'u gwasgaru ar draws pedwar safle ysbyty heb unrhyw staffio strôc arbenigol ar gael saith diwrnod yr wythnos. Gall hyn effeithio ar ganlyniadau ac adferiad i gleifion strôc.

Cytunodd aelodau'r bwrdd fod angen rhagor o waith ac ymgysylltu cyn penderfynu ar fodel i’r dyfodol. Ers hynny, mae gwaith ychwanegol wedi'i wneud i ddatblygu a phrofi opsiwn a ffefrir ar gyfer gwasanaethau strôc.

Mae'r opsiwn a ffefrir yn dwyn ynghyd elfennau o ddau gynnig amgen (Opsiwn 106 ac Opsiwn 210) a gyflwynwyd gan gymunedau yn ystod cam cyntaf yr ymgynghoriad yn haf 2025.

Mae'r opsiwn a ffefrir yn cynnwys:

  • Uned strôc acíwt ac adsefydlu 24 awr yn Ysbyty Glangwili
  • Uned adsefydlu strôc yn Ysbyty Bronglais
  • Gwasanaethau trin a throsglwyddo yn ysbytai Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg, gyda chleifion yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili neu ganolfan thrombectomi arbenigol lle bo'n briodol

Clywodd y Bwrdd fod y cynnig wedi'i asesu i'r un lefel o fanylder â'r opsiynau a ystyriwyd yn flaenorol, yn bodloni'r meini prawf gofynnol, ac wedi derbyn cefnogaeth gan gynrychiolwyr clinigol a gweithredol. O ganlyniad, cytunodd y Bwrdd i symud ymlaen i ail gam ymgynghori, yn benodol ar wasanaethau strôc.

Bydd ail gam yr ymgynghoriad yn rhedeg am wyth wythnos o heddiw (28 Mai) tan 26 Gorffennaf 2026.

Yn ystod y cyfnod hwn, gofynnir i bobl a ydynt yn cefnogi'r opsiwn a ffefrir a pham. Byddant hefyd yn gallu gwneud sylwadau ar yr opsiynau eraill a ystyriwyd yn flaenorol gan y Bwrdd, Opsiwn A ac Opsiwn B a'r ddau opsiwn amgen - Opsiwn 106 ac Opsiwn 210 a gyflwynwyd gan gymunedau. Bydd yr ail gam hwn o'r ymgynghoriad hefyd yn ceisio adborth ar unrhyw beth arall y dylid ei ystyried, gan gynnwys unrhyw effeithiau posibl ar gydraddoldeb neu ar y Gymraeg.

Dywedodd Dr Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae penderfyniad heddiw yn golygu y gallwn nawr fynd yn ôl at ein cymunedau i ofyn eu barn ar yr opsiwn a ffefrir. Datblygwyd yr opsiwn gan ddefnyddio awgrymiadau a gyflwynwyd gan ein cymunedau yn y lle cyntaf. Mae hwn yn gam pwysig cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol ar wasanaethau strôc.

"Fel Bwrdd, rydym wedi ymrwymo i gydweithio i sicrhau ein bod yn darparu'r gofal gorau posib i'n cleifion, gan gynnwys y canlyniadau gorau i bobl sy'n dioddef strôc. Gall newid fod yn heriol, ond mae'n rhaid i ni addasu i sicrhau bod ein gwasanaethau yn bodloni safonau strôc ac yn galluogi pobl i gael yr adferiad gorau posib o'r cyflwr hwn sy'n newid bywyd."

Bydd ystod eang o gyfleoedd ymgysylltu yn cael eu cynnig i'w gwneud mor hawdd â phosib i bobl gymryd rhan. Mae'r rhain yn cynnwys digwyddiadau galw heibio cyhoeddus, sesiynau ar-lein, allgymorth cymunedol, ymweliadau â safleoedd ysbyty, sesiynau briffio staff ac ymgysylltu wedi'i dargedu â grwpiau cymunedol. Bydd gwybodaeth hefyd ar gael mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch a gwahanol ieithoedd i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn gallu rhannu eu barn.

Dywedodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol: "Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gwasanaethau strôc i'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu ac i'n staff. Mae'r ail gam hwn o'r ymgynghoriad yn gyfnod pwysig wrth lunio dyfodol gwasanaethau strôc ar draws Hywel Dda.

"Rwy'n annog pawb i gymryd rhan - boed hynny drwy lenwi'r holiadur neu fynychu un o'n digwyddiadau. Bydd eich profiadau a'ch adborth yn chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i wneud penderfyniadau gwybodus i ddarparu'r canlyniadau gorau posib i gleifion."

Bydd y Bwrdd Iechyd yn ystyried yn ofalus yr holl adborth o ddau gam yr ymgynghoriad, ochr yn ochr â thystiolaeth ategol, data, cyngor clinigol ac asesiadau effaith, cyn gwneud penderfyniad terfynol yn ddiweddarach eleni.

Mae gwybodaeth am ail gam yr ymgynghoriad, gan gynnwys manylion y digwyddiadau, yr holiadur a'r dogfennau mewn fformatau hygyrch ac ieithoedd arall, ar gael ar dudalennau gwe y Bwrdd Iechyd ar yr ymgynghoriad: https://biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-stroc (agor mewn dolen newydd)