Mae Eich Cofnod Gofal Beichiogrwydd (Badger Notes) yn borth ac ap ar-lein sy'n eich galluogi i gael mynediad at eich cofnodion mamolaeth dros y rhyngrwyd trwy eich cyfrifiadur, tabled neu ffôn symudol.
Mae'r wybodaeth a welwch yn cael ei chynhyrchu mewn amser real o system famolaeth eich ysbyty ac mae'n seiliedig ar fanylion a gofnodwyd gan eich bydwraig neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'ch gofal.
Mae eich cyfrif Badger Notes wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â'n system ddigidol newydd, BadgerNet. Yn eich apwyntiad bydwraig cyntaf, byddwch yn derbyn gwybodaeth am sut i gael mynediad i'ch cyfrif newydd.
Daliwch ati i ddod â'ch nodiadau llaw papur i bob apwyntiad gan y bydd rhywfaint o ddogfennaeth yn aros ar ffurf bapur.