Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect Calonnau Iach yn cael ei lansio yn Sir Gaerfyrddin

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

23 December 2022

Mae prosiect newydd i gynorthwyo unigolion ledled Sir Gaerfyrddin i ddilyn ffordd iachach o fyw wedi cael ei lansio yr wythnos hon.

Byddprosiect Calonnau Iach yn gweithio ar y cyd gyda chymorth Gofal Sylfaenol, Nyrsio Cymunedol, Fferylliaeth Gymunedol, Deieteteg, a Chardioleg, ynghyd â Chyngor Sir Caerfyrddin ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i atal a lleihau iechyd cardiofasgwlaidd gwael (y galon).

Mae’r prosiect wedi’i ariannu ers dwy flynedd ar draws y tri Chlwstwr yn Sir Gaerfyrddin sy’n cwmpasu ardal Aman Gwendraeth, Llanelli, a Thywi/Taf (2T).

Nod y prosiect hwn fydd helpu'r rhai sydd â phwysedd gwaed uchel, gordewdra, colesterol uwch a ffactorau risg eraill ar gyfer clefyd y galon. Bydd trigolion Sir Gaerfyrddin yn cael cymorth i leihau eu risg o glefyd y galon, trawiad ar y galon a strôc, drwy gael cymorth i roi'r gorau i ysmygu, bwyta'n iach, ymarfer corff a lleihau faint o alcohol y maent yn ei yfed.

Bydd y prosiect yn gweithio ochr yn ochr â'r gwaith cyn-diabetes a ffordd o fyw, ac yn ei ategu, gan helpu cleifion i aros yn iach, byw bywydau iachach a byw'n annibynnol cyhyd â phosibl.

Dywedodd Kerry Phillips, arweinydd Meddygon Teulu ar gyfer clwstwr Tywi/Taf: “Clefyd cardiofasgwlaidd yw’r ail brif achos marwolaeth yng Nghymru o hyd. Trwy waith ataliol amrywiol, rydym yn gobeithio cael effaith uniongyrchol ar dderbyniadau i ysbytai sy’n gysylltiedig â chardiofasgwlaidd, gan ddarparu buddion sylweddol mewn marwolaethau a salwch hirdymor.”

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae prosiect Calonnau Iach Sir Gaerfyrddin yn ychwanegiad cyffrous i’w groesawu at y gwasanaethau a ddarperir gan ein timau Gofal Sylfaenol.

“Trwy amrywiaeth o wasanaethau cymorth ffordd o fyw, bydd Calonnau Iach yn helpu i wella ansawdd bywyd cyffredinol a chanlyniadau iechyd cyffredinol i’n cleifion yn Sir Gaerfyrddin.”

Gyda'n gilydd gallwn guro clefyd y galon. Os byddech yn elwa o'r gwasanaeth hwn, cysylltwch â'r Tîm Rhaglenni Addysg i Gleifion ar 0300 303 8322 opsiwn 5 neu e-bostiwch epp.hdd@wales.nhs.uk i gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan.

Bydd tîm y prosiect o gwmpas canol trefi a lleoliadau yn Sir Gaerfyrddin yn cynnig archwiliadau iechyd am ddim i drigolion Sir Gaerfyrddin a gwybodaeth leol ar sut i wella iechyd eich calon gan ddefnyddio gwasanaethau sy'n lleol i chi.