Neidio i'r prif gynnwy

Profiad ymarferol i ddarpar fyfyrwyr iechyd

14 Mawrth 2023

Bydd myfyrwyr o bob rhan o ysgolion Ceredigion yn cael cyfle i siarad wyneb yn wyneb â staff o amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys gwasanaethau iechyd a gofal lleol am eu gyrfaoedd yn y dyfodol mewn digwyddiad a gynhelir ar 21 Mawrth 2023.

Mae’r digwyddiad ‘Dewiswch Eich Dyfodol’ wedi’i anelu at ddisgyblion o flynyddoedd 10, 11, 12 a 13 a bydd yn rhoi cipolwg iddynt ar yrfaoedd ar draws amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys y GIG. Mae wedi’i drefnu gan Gyrfa Cymru a bydd yn cael ei gefnogi gan ystod o staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Ceredigion yn ogystal â sefydliadau lleol eraill.

Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, yn rhoi profiad rhyngweithiol i fyfyrwyr, rhieni ac ymwelwyr o’r ystod eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael o fewn y bwrdd iechyd, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r llwybrau i yrfaoedd dymunol.

Bydd gwasanaethau gwahanol o bob rhan o’r bwrdd iechyd yn arddangos amrywiaeth o ddewisiadau gyrfa, gan gynnwys nyrsio, therapïau, podiatreg, cyfleusterau gwesty, radioleg, fferylliaeth, a’r gweithlu. Bydd myfyrwyr yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'r gweithwyr iechyd proffesiynol, megis defnyddio offer sonograffeg, modelau geni a mwy, gan roi mwy o ddealltwriaeth ymarferol iddynt o wasanaethau'r GIG.

Cynhaliwyd digwyddiad ‘Dewiswch Eich Dyfodol’ tebyg yn Sir Benfro ym mis Tachwedd 2022, a fynychwyd gan lawer gyda 1,500 o ddisgyblion yn cymryd rhan, ac mae digwyddiad yn cael ei gynllunio ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hwn yn gyfle gwych i ni gysylltu wyneb yn wyneb â’n poblogaeth iau am y cyfleoedd gyrfa wych sydd ar gael iddynt yn eu GIG lleol. Roedd awyrgylch gwych yn yr ystafell yn ein digwyddiad yn Sir Benfro ac rydym yn obeithiol y bydd llawer o’r myfyrwyr a fynychodd yn mynd ymlaen i fod yn rhan o weithlu’r dyfodol yn Hywel Dda.”

Ychwanegodd Andrew Wonklyn, Arweinydd Tîm Gyrfa Cymru: “Mae digwyddiad Dewiswch Eich Dyfodol yn gyfle gwych i bobl ifanc yng Ngheredigion ehangu eu gorwelion o ran gyrfaoedd a’u dewisiadau ar gyfer y dyfodol. Trwy ddod â disgyblion ysgol ynghyd â chyflogwyr lleol a chenedlaethol, gallant ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt ar ôl ysgol ac yn y dyfodol.

“Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i ddisgyblion feddwl am yr hyn sy’n apelio atynt a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol i’r arbenigwyr eu hunain. Bydd ein cynghorwyr gyrfaoedd arbenigol yno hefyd ar y diwrnod i helpu disgyblion i feddwl am eu camau nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Lesiant Gydol Oes:  "Bydd hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr sy'n ystyried gyrfa yn y GIG gael cipolwg gan weithwyr iechyd presennol. Bydd hefyd yn gyfle da iawn i'r rhai sydd heb ystyried y GIG fel llwybr gyrfa hyd yn hyn."

I ddarganfod mwy am y digwyddiad ewch i:
Dewiswch Eich Dyfodol Ceredigion | Digwyddiadau (llyw.cymru) (agor mewn dolen newydd)

I gael rhagor o wybodaeth am yrfaoedd yn eich GIG lleol, ewch i Gweithio i ni - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru).(agor mewn dolen newydd) Gallwch hefyd ddilyn sianeli cyfryngau cymdeithasol y bwrdd iechyd yma:

  • Facebook - @SwyddiHywelDdaJobs
  • Twitter - @SwyddHDdaJobs
  • LinkedIn – Hywel Dda University Health Board